
Sechareia 1 Beibl William Morgan (BWM)1 Yn yr wythfed mis o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, 2 Llwyr ddigiodd yr Arglwydd wrth eich tadau. 3 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Dychwelwch ataf fi, medd Arglwydd y lluoedd, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd. 4 Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o’r blaen arnynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr Arglwydd. 5 Eich tadau, pa le y maent hwy? a’r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth? 6 Oni ddarfu er hynny i’m geiriau a’m deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a ddywedasant, Megis y meddyliodd Arglwydd y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni. 7 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o’r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd, 8 Gwelais noswaith; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o’i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion. 9 Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn. 10 A’r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i ymrodio trwy y ddaear. 11 A hwythau a atebasant angel yr Arglwydd, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd. 12 Ac angel yr Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn? 13 A’r Arglwydd a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus. 14 A’r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion: 15 A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed. 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd Arglwydd y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem. 17 Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a’r Arglwydd a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto. 18 A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn. 19 A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem. 20 A’r Arglwydd a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd. 21 Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i’w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i’w gwasgaru hi.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.