Add parallel Print Page Options

Gweddi Moses gŵr Duw.

90 Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth. Cyn gwneuthur y mynyddoedd, a llunio ohonot y ddaear, a’r byd; ti hefyd wyt Dduw, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. Troi ddyn i ddinistr; a dywedi, Dychwelwch, feibion dynion. Canys mil o flynyddoedd ydynt yn dy olwg di fel doe, wedi yr êl heibio, ac fel gwyliadwriaeth nos. Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant; y maent fel hun: y bore y maent fel llysieuyn a newidir. Y bore y blodeua, ac y tyf; prynhawn y torrir ef ymaith, ac y gwywa. Canys yn dy ddig y difethwyd ni, ac yn dy lidiowgrwydd y’n brawychwyd. Gosodaist ein hanwiredd ger dy fron, ein dirgel bechodau yng ngoleuni dy wyneb. Canys ein holl ddyddiau ni a ddarfuant gan dy ddigofaint di: treuliasom ein blynyddoedd fel chwedl. 10 Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrigain: ac os o gryfder y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd, eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith. 11 Pwy a edwyn nerth dy soriant? canys fel y mae dy ofn, y mae dy ddicter. 12 Dysg i ni felly gyfrif ein dyddiau, fel y dygom ein calon i ddoethineb. 13 Dychwel, Arglwydd, pa hyd? ac edifarha o ran dy weision. 14 Diwalla ni yn fore â’th drugaredd; fel y gorfoleddom ac y llawenychom dros ein holl ddyddiau. 15 Llawenha ni yn ôl y dyddiau y cystuddiaist ni, a’r blynyddoedd y gwelsom ddrygfyd. 16 Gweler dy waith tuag at dy weision, a’th ogoniant tuag at eu plant hwy. 17 A bydded prydferthwch yr Arglwydd ein Duw arnom ni: a threfna weithred ein dwylo ynom ni; ie, trefna waith ein dwylo.