Add parallel Print Page Options

Cân neu Salm Asaff.

83 O Dduw, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw. Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau. Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di. Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach. Canys ymgyngorasant yn unfryd; ac ymwnaethant i’th erbyn; Pebyll Edom, a’r Ismaeliaid; y Moabiaid, a’r Hagariaid; Gebal, ac Ammon, ac Amalec; y Philistiaid, gyda phreswylwyr Tyrus. Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela. Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison: 10 Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i’r ddaear. 11 Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Seeb; a’u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna: 12 Y rhai a ddywedasant, Cymerwn i ni gyfanheddau Duw i’w meddiannu. 13 Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt. 14 Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd; 15 Felly erlid di hwynt â’th dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt. 16 Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O Arglwydd. 17 Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt: 18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.