Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd, pan yrrodd Saul rai i gadw y tŷ i’w ladd ef.

59 Fy Nuw, gwared fi oddi wrth fy ngelynion: amddiffyn fi oddi wrth y rhai a ymgyfodant i’m herbyn. Gwared fi oddi wrth weithredwyr anwiredd, ac achub fi rhag y gwŷr gwaedlyd. Canys wele, cynllwynasant yn erbyn fy enaid: ymgasglodd cedyrn i’m herbyn; nid ar fy mai na’m pechod i, O Arglwydd. Rhedant, ymbaratoant, heb anwiredd ynof fi: deffro dithau i’m cymorth, ac edrych. A thi, Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel, deffro i ymweled â’r holl genhedloedd: na thrugarha wrth neb a wnânt anwiredd yn faleisus. Sela. Dychwelant gyda’r hwyr, cyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas. Wele, bytheiriant â’u genau: cleddyfau sydd yn eu gwefusau: canys pwy, meddant, a glyw? Ond tydi, O Arglwydd, a’u gwatweri hwynt; ac a chwerddi am ben yr holl genhedloedd. Oherwydd ei nerth ef, y disgwyliaf wrthyt ti: canys Duw yw fy amddiffynfa. 10 Fy Nuw trugarog a’m rhagflaena: Duw a wna i mi weled fy ewyllys ar fy ngelynion. 11 Na ladd hwynt, rhag i’m pobl anghofio: gwasgar hwynt yn dy nerth, a darostwng hwynt, O Arglwydd ein tarian. 12 Am bechod eu genau, ac ymadrodd eu gwefusau, dalier hwynt yn eu balchder: ac am y felltith a’r celwydd a draethant. 13 Difa hwynt yn dy lid, difa, fel na byddont: a gwybyddant mai Duw sydd yn llywodraethu yn Jacob, hyd eithafoedd y ddaear. Sela. 14 A dychwelant gyda’r hwyr, a chyfarthant fel cŵn, ac amgylchant y ddinas. 15 Crwydrant am fwyd; ac onis digonir, grwgnachant. 16 Minnau a ganaf am dy nerth, ie, llafarganaf am dy drugaredd yn fore: canys buost yn amddiffynfa i mi, ac yn noddfa yn y dydd y bu cyfyngder arnaf. 17 I ti, fy nerth, y canaf; canys Duw yw fy amddiffynfa, a Duw fy nhrugaredd.