Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd ar Neginoth, Maschil, Salm Dafydd.

55 Gwrando fy ngweddi, O Dduw; ac nac ymguddia rhag fy neisyfiad. Gwrando arnaf, ac erglyw fi: cwynfan yr ydwyf yn fy ngweddi, a thuchan, Gan lais y gelyn, gan orthrymder yr annuwiol: oherwydd y maent yn bwrw anwiredd arnaf, ac yn fy nghasáu yn llidiog. Fy nghalon a ofidia o’m mewn: ac ofn angau a syrthiodd arnaf. Ofn ac arswyd a ddaeth arnaf, a dychryn a’m gorchuddiodd. A dywedais, O na bai i mi adenydd fel colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorffwyswn. Wele, crwydrwn ymhell, ac arhoswn yn yr anialwch. Sela. Brysiwn i ddianc, rhag y gwynt ystormus a’r dymestl. Dinistria, O Arglwydd, a gwahan eu tafodau: canys gwelais drawster a chynnen yn y ddinas. 10 Dydd a nos yr amgylchant hi ar ei muriau: ac y mae anwiredd a blinder yn ei chanol hi. 11 Anwireddau sydd yn ei chanol hi; ac ni chilia twyll a dichell o’i heolydd hi. 12 Canys nid gelyn a’m difenwodd; yna y dioddefaswn: nid fy nghasddyn a ymfawrygodd i’m herbyn; yna mi a ymguddiaswn rhagddo ef: 13 Eithr tydi, ddyn, fy nghydradd, fy fforddwr, a’m cydnabod, 14 Y rhai oedd felys gennym gydgyfrinachu, ac a rodiasom i dŷ Dduw ynghyd. 15 Rhuthred marwolaeth arnynt, a disgynnant i uffern yn fyw: canys drygioni sydd yn eu cartref, ac yn eu mysg. 16 Myfi a waeddaf ar Dduw; a’r Arglwydd a’m hachub i. 17 Hwyr a bore, a hanner dydd, y gweddïaf, a byddaf daer: ac efe a glyw fy lleferydd. 18 Efe a waredodd fy enaid mewn heddwch oddi wrth y rhyfel oedd i’m herbyn: canys yr oedd llawer gyda mi. 19 Duw a glyw, ac a’u darostwng hwynt, yr hwn sydd yn aros erioed: Sela: am nad oes gyfnewidiau iddynt, am hynny nid ofnant Dduw. 20 Efe a estynnodd ei law yn erbyn y rhai oedd heddychlon ag ef: efe a dorrodd ei gyfamod. 21 Llyfnach oedd ei enau nag ymenyn, a rhyfel yn ei galon: tynerach oedd ei eiriau nag olew, a hwynt yn gleddyfau noethion. 22 Bwrw dy faich ar yr Arglwydd, ac efe a’th gynnal di: ni ad i’r cyfiawn ysgogi byth. 23 Tithau, Dduw, a’u disgynni hwynt i bydew dinistr: gwŷr gwaedlyd a thwyllodrus ni byddant byw hanner eu dyddiau; ond myfi a obeithiaf ynot ti.