Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd ar Nehiloth, Salm Dafydd.

Gwrando fy ngeiriau, Arglwydd; deall fy myfyrdod. Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m Duw: canys arnat y gweddïaf. Yn fore, Arglwydd, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny. Oherwydd nid wyt ti Dduw yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi. Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd. Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr Arglwydd a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus. A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di. Arglwydd, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen. Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod. 10 Distrywia hwynt, O Dduw; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn. 11 Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot. 12 Canys ti, Arglwydd, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.