Add parallel Print Page Options

Salm Dafydd.

144 Bendigedig fyddo yr Arglwydd fy nerth, yr hwn sydd yn dysgu fy nwylo i ymladd, a’m bysedd i ryfela. Fy nhrugaredd, a’m hamddiffynfa; fy nhŵr, a’m gwaredydd: fy nharian yw efe, ac ynddo y gobeithiais; yr hwn sydd yn darostwng fy mhobl danaf. Arglwydd, beth yw dyn, pan gydnabyddit ef? neu fab dyn, pan wneit gyfrif ohono? Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau sydd fel cysgod yn myned heibio. Arglwydd, gostwng dy nefoedd, a disgyn: cyffwrdd â’r mynyddoedd, a mygant. Saetha fellt, a gwasgar hwynt; ergydia dy saethau, a difa hwynt. Anfon dy law oddi uchod; achub a gwared fi o ddyfroedd mawrion, o law plant estron; Y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster. Canaf i ti, O Dduw, ganiad newydd: ar y nabl a’r dectant y canaf i ti. 10 Efe sydd yn rhoddi iachawdwriaeth i frenhinoedd; yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei was oddi wrth y cleddyf niweidiol. 11 Achub fi, a gwared fi o law meibion estron, y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster: 12 Fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a’n merched fel conglfaen nadd, wrth gyffelybrwydd palas: 13 Fel y byddo ein celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth; a’n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd: 14 A’n hychen yn gryfion i lafurio; heb na rhuthro i mewn, na myned allan; na gwaedd yn ein heolydd. 15 Gwyn eu byd y bobl y mae felly iddynt: gwyn eu byd y bobl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddynt.