Add parallel Print Page Options

135 Molwch yr Arglwydd. Molwch enw yr Arglwydd; gweision yr Arglwydd, molwch ef. Y rhai ydych yn sefyll yn nhŷ yr Arglwydd, yng nghynteddoedd tŷ ein Duw ni, Molwch yr Arglwydd; canys da yw yr Arglwydd: cenwch i’w enw; canys hyfryd yw. Oblegid yr Arglwydd a ddetholodd Jacob iddo ei hun, ac Israel yn briodoriaeth iddo. Canys mi a wn mai mawr yw yr Arglwydd; a bod ein Harglwydd ni goruwch yr holl dduwiau. Yr Arglwydd a wnaeth yr hyn oll a fynnai yn y nefoedd, ac yn y ddaear, yn y môr, ac yn yr holl ddyfnderau. Y mae yn codi tarth o eithafoedd y ddaear; mellt a wnaeth efe ynghyd â’r glaw; gan ddwyn y gwynt allan o’i drysorau. Yr hwn a drawodd gyntaf‐anedig yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail. Danfonodd arwyddion a rhyfeddodau i’th ganol di, yr Aifft; ar Pharo, ac ar ei holl weision. 10 Yr hwn a drawodd genhedloedd lawer, ac a laddodd frenhinoedd cryfion; 11 Sehon brenin yr Amoriaid, ac Og brenin Basan, a holl freniniaethau Canaan: 12 Ac a roddodd eu tir hwynt yn etifeddiaeth, yn etifeddiaeth i Israel ei bobl. 13 Dy enw, O Arglwydd, a bery yn dragywydd; dy goffadwriaeth, O Arglwydd, o genhedlaeth i genhedlaeth. 14 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, a bydd edifar ganddo o ran ei weision. 15 Delwau y cenhedloedd ydynt arian ac aur, gwaith dwylo dyn. 16 Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant. 17 Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; nid oes chwaith anadl yn eu genau. 18 Fel hwynt y mae y rhai a’u gwnânt, a phob un a ymddiriedo ynddynt. 19 Tŷ Israel, bendithiwch yr Arglwydd: bendithiwch yr Arglwydd, tŷ Aaron. 20 Tŷ Lefi, bendithiwch yr Arglwydd: y rhai a ofnwch yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd. 21 Bendithier yr Arglwydd o Seion, yr hwn sydd yn trigo yn Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.