Add parallel Print Page Options

114 Pan aeth Israel o’r Aifft, tŷ Jacob oddi wrth bobl anghyfiaith; Jwda oedd ei sancteiddrwydd, ac Israel ei arglwyddiaeth. Y môr a welodd hyn, ac a giliodd; yr Iorddonen a drodd yn ôl. Y mynyddoedd a neidiasant fel hyrddod, a’r bryniau fel ŵyn defaid. Beth ddarfu i ti, O fôr, pan giliaist? tithau Iorddonen, paham y troaist yn ôl? Paham, fynyddoedd, y neidiech fel hyrddod? a’r bryniau fel ŵyn defaid? Ofna, di ddaear, rhag yr Arglwydd, rhag Duw Jacob: Yr hwn sydd yn troi y graig yn llyn dwfr, a’r gallestr yn ffynnon dyfroedd.