Add parallel Print Page Options

106 Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd. Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef? Gwyn eu byd a gadwant farn, a’r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser. Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i’th bobl; ymwêl â mi â’th iachawdwriaeth. Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda’th etifeddiaeth. Pechasom gyda’n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom. Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch. Eto efe a’u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid. Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy’r dyfnder, megis trwy’r anialwch. 10 Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn. 11 A’r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt. 12 Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef. 13 Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef. 14 Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant Dduw yn y diffeithwch. 15 Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i’w henaid. 16 Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr Arglwydd. 17 Y ddaear a agorodd, ac a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram. 18 Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol. 19 Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i’r ddelw dawdd. 20 Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt. 21 Anghofiasant Dduw eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft; 22 Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch. 23 Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o’i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio. 24 Diystyrasant hefyd y tir dymunol: ni chredasant ei air ef: 25 Ond grwgnachasant yn eu pebyll; ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd. 26 Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, i’w cwympo yn yr anialwch; 27 Ac i gwympo eu had ymysg y cenhedloedd; ac i’w gwasgaru yn y tiroedd. 28 Ymgysylltasant hefyd â Baal‐Peor, a bwytasant ebyrth y meirw. 29 Felly y digiasant ef â’u dychmygion eu hun; ac y trawodd pla yn eu mysg hwy. 30 Yna y safodd Phinees, ac a iawn farnodd: a’r pla a ataliwyd. 31 A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder, o genhedlaeth i genhedlaeth byth. 32 Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen; fel y bu ddrwg i Moses o’u plegid hwynt: 33 Oherwydd cythruddo ohonynt ei ysbryd ef, fel y camddywedodd â’i wefusau. 34 Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt: 35 Eithr ymgymysgasant â’r cenhedloedd; a dysgasant eu gweithredoedd hwynt: 36 A gwasanaethasant eu delwau hwynt; y rhai a fu yn fagl iddynt. 37 Aberthasant hefyd eu meibion a’u merched i gythreuliaid, 38 Ac a dywalltasant waed gwirion, sef gwaed eu meibion a’u merched, y rhai a aberthasant i ddelwau Canaan: a’r tir a halogwyd â gwaed. 39 Felly yr ymhalogasant yn eu gweithredoedd eu hun, ac y puteiniasant gyda’u dychmygion. 40 Am hynny y cyneuodd dig yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd efe ei etifeddiaeth. 41 Ac efe a’u rhoddes hwynt yn llaw y cenhedloedd; a’u caseion a lywodraethasant arnynt. 42 Eu gelynion hefyd a’u gorthrymasant; a darostyngwyd hwynt dan eu dwylo hwy. 43 Llawer gwaith y gwaredodd efe hwynt; hwythau a’i digiasant ef â’u cyngor eu hun, a hwy a wanychwyd am eu hanwiredd. 44 Eto efe a edrychodd pan oedd ing arnynt, pan glywodd eu llefain hwynt. 45 Ac efe a gofiodd ei gyfamod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau: 46 Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a’u caethiwai. 47 Achub ni, O Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant. 48 Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.