Add parallel Print Page Options

105 Clodforwch yr Arglwydd; gelwch ar ei enw: mynegwch ei weithredoedd ymysg y bobloedd. Cenwch iddo, canmolwch ef: ymddiddenwch am ei holl ryfeddodau ef. Gorfoleddwch yn ei enw sanctaidd: llawenyched calon y rhai a geisiant yr Arglwydd. Ceisiwch yr Arglwydd a’i nerth: ceisiwch ei wyneb ef bob amser. Cofiwch ei ryfeddodau y rhai a wnaeth efe; ei wyrthiau, a barnedigaethau ei enau; Chwi had Abraham ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion. Efe yw yr Arglwydd ein Duw ni: ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. Cofiodd ei gyfamod byth, y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau: Yr hyn a amododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac; 10 A’r hyn a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel; 11 Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth. 12 Pan oeddynt ychydig o rifedi, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi: 13 Pan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, o’r naill deyrnas at bobl arall: 14 Ni adawodd i neb eu gorthrymu; ie, ceryddodd frenhinoedd o’u plegid; 15 Gan ddywedyd, Na chyffyrddwch â’m rhai eneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi. 16 Galwodd hefyd am newyn ar y tir; a dinistriodd holl gynhaliaeth bara. 17 Anfonodd ŵr o’u blaen hwynt, Joseff, yr hwn a werthwyd yn was. 18 Cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn: ei enaid a aeth mewn heyrn: 19 Hyd yr amser y daeth ei air ef: gair yr Arglwydd a’i profodd ef. 20 Y brenin a anfonodd, ac a’i gollyngodd ef; llywodraethwr y bobl, ac a’i rhyddhaodd ef. 21 Gosododd ef yn arglwydd ar ei dŷ, ac yn llywydd ar ei holl gyfoeth: 22 I rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewyllys; ac i ddysgu doethineb i’w henuriaid ef. 23 Aeth Israel hefyd i’r Aifft; a Jacob a ymdeithiodd yn nhir Ham. 24 Ac efe a gynyddodd ei bobl yn ddirfawr; ac a’u gwnaeth yn gryfach na’u gwrthwynebwyr. 25 Trodd eu calon hwynt i gasáu ei bobl ef, i wneuthur yn ddichellgar â’i weision. 26 Efe a anfonodd Moses ei was; ac Aaron, yr hwn a ddewisasai. 27 Hwy a ddangosasant ei arwyddion ef yn eu plith hwynt, a rhyfeddodau yn nhir Ham. 28 Efe a anfonodd dywyllwch, ac a dywyllodd: ac nid anufuddhasant hwy ei air ef. 29 Efe a drodd eu dyfroedd yn waed, ac a laddodd eu pysgod. 30 Eu tir a heigiodd lyffaint yn ystafelloedd eu brenhinoedd. 31 Efe a ddywedodd, a daeth cymysgbla, a llau yn eu holl fro hwynt. 32 Efe a wnaeth eu glaw hwynt yn genllysg, ac yn fflamau tân yn eu tir. 33 Trawodd hefyd eu gwinwydd, a’u ffigyswydd; ac a ddrylliodd goed eu gwlad hwynt. 34 Efe a ddywedodd, a daeth y locustiaid, a’r lindys, yn aneirif; 35 Y rhai a fwytasant yr holl laswellt yn eu tir hwynt, ac a ddifasant ffrwyth eu daear hwynt. 36 Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn eu tir hwynt, blaenffrwyth eu holl nerth hwynt. 37 Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau. 38 Llawenychodd yr Aifft pan aethant allan: canys syrthiasai eu harswyd arnynt hwy. 39 Efe a daenodd gwmwl yn do, a thân i oleuo liw nos. 40 Gofynasant, ac efe a ddug soflieir; ac a’u diwallodd â bara nefol. 41 Efe a holltodd y graig, a’r dyfroedd a ddylifodd; cerddasant ar hyd lleoedd sychion yn afonydd. 42 Canys efe a gofiodd ei air sanctaidd, ac Abraham ei was. 43 Ac a ddug ei bobl allan mewn llawenydd; ei etholedigion mewn gorfoledd. 44 Ac a roddes iddynt diroedd y cenhedloedd: a meddianasant lafur y bobloedd. 45 Fel y cadwent ei ddeddfau ef, ac y cynhalient ei gyfreithiau. Molwch yr Arglwydd.