Add parallel Print Page Options

Gweddi’r cystuddiedig, pan fyddo mewn blinder, ac yn tywallt ei gŵyn gerbron yr Arglwydd

102 Arglwydd, clyw fy ngweddi, a deled fy llef atat. Na chudd dy wyneb oddi wrthyf yn nydd fy nghyfyngder, gostwng dy glust ataf: yn y dydd y galwyf, brysia, gwrando fi. Canys fy nyddiau a ddarfuant fel mwg, a’m hesgyrn a boethasant fel aelwyd. Fy nghalon a drawyd, ac a wywodd fel llysieuyn; fel yr anghofiais fwyta fy mara. Gan lais fy nhuchan y glynodd fy esgyrn wrth fy nghnawd. Tebyg wyf i belican yr anialwch: ydwyf fel tylluan y diffeithwch. Gwyliais, ac ydwyf fel aderyn y to, unig ar ben y tŷ. Fy ngelynion a’m gwaradwyddant beunydd: y rhai a ynfydant wrthyf, a dyngasant yn fy erbyn. Canys bwyteais ludw fel bara, a chymysgais fy niod ag wylofain; 10 Oherwydd dy lid di a’th ddigofaint: canys codaist fi i fyny, a theflaist fi i lawr. 11 Fy nyddiau sydd fel cysgod yn cilio; a minnau fel glaswelltyn a wywais. 12 Tithau, Arglwydd, a barhei yn dragwyddol, a’th goffadwriaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth. 13 Ti a gyfodi, ac a drugarhei wrth Seion: canys yr amser i drugarhau wrthi, ie, yr amser nodedig, a ddaeth. 14 Oblegid y mae dy weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi. 15 Felly y cenhedloedd a ofnant enw yr Arglwydd, a holl frenhinoedd y ddaear dy ogoniant. 16 Pan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant. 17 Efe a edrych ar weddi y gwael, ac ni ddiystyrodd eu dymuniad. 18 Hyn a ysgrifennir i’r genhedlaeth a ddêl: a’r bobl a grëir a foliannant yr Arglwydd. 19 Canys efe a edrychodd o uchelder ei gysegr: yr Arglwydd a edrychodd o’r nefoedd ar y ddaear; 20 I wrando uchenaid y carcharorion; ac i ryddhau plant angau; 21 I fynegi enw yr Arglwydd yn Seion, a’i foliant yn Jerwsalem: 22 Pan gasgler y bobl ynghyd, a’r teyrnasoedd i wasanaethu yr Arglwydd. 23 Gostyngodd efe fy nerth ar y ffordd; byrhaodd fy nyddiau. 24 Dywedais, Fy Nuw, na chymer fi ymaith yng nghanol fy nyddiau: dy flynyddoedd di sydd yn oes oesoedd. 25 Yn y dechreuad y seiliaist y ddaear; a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylo. 26 Hwy a ddarfyddant, a thi a barhei: ie, hwy oll a heneiddiant fel dilledyn; fel gwisg y newidi hwynt, a hwy a newidir. 27 Tithau yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni ddarfyddant. 28 Plant dy weision a barhânt, a’u had a sicrheir ger dy fron di.