Salmau 141
Beibl William Morgan
Salm Dafydd.
141 Arglwydd, yr wyf yn gweiddi arnat: brysia ataf; clyw fy llais, pan lefwyf arnat. 2 Cyfeirier fy ngweddi ger dy fron fel arogl‐darth, a dyrchafiad fy nwylo fel yr offrwm prynhawnol. 3 Gosod, Arglwydd, gadwraeth o flaen fy ngenau: cadw ddrws fy ngwefusau. 4 Na ostwng fy nghalon at ddim drwg, i fwriadu gweithredoedd drygioni gyda gwŷr a weithredant anwiredd: ac na ad i mi fwyta o’u danteithion hwynt. 5 Cured y cyfiawn fi yn garedig, a cherydded fi: na thorred eu holew pennaf hwynt fy mhen: canys fy ngweddi fydd eto yn eu drygau hwynt. 6 Pan dafler eu barnwyr i lawr mewn lleoedd caregog, clywant fy ngeiriau; canys melys ydynt. 7 Y mae ein hesgyrn ar wasgar ar fin y bedd, megis un yn torri neu yn hollti coed ar y ddaear. 8 Eithr arnat ti, O Arglwydd Dduw, y mae fy llygaid: ynot ti y gobeithiais; na ad fy enaid yn ddiymgeledd. 9 Cadw fi rhag y fagl a osodasant i mi, a hoenynnau gweithredwyr anwiredd. 10 Cydgwymped y rhai annuwiol yn eu rhwydau eu hun, tra yr elwyf fi heibio.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.