Add parallel Print Page Options

Gwell yw enw da nag ennaint gwerthfawr; a dydd marwolaeth na dydd genedigaeth.

Gwell yw myned i dŷ galar, na myned i dŷ gwledd: canys hynny yw diwedd pob dyn; a’r byw a’i gesyd at ei galon. Gwell yw dicter na chwerthin: canys trwy dristwch yr wynepryd y gwellheir y galon. Calon doethion fydd yn nhŷ y galar; ond calon ffyliaid yn nhŷ llawenydd. Gwell yw gwrando sen y doeth, na gwrando cân ffyliaid. Canys chwerthiniad dyn ynfyd sydd fel clindarddach drain dan grochan. Dyma wagedd hefyd.

Yn ddiau trawsedd a ynfyda y doeth, a rhodd a ddifetha y galon. Gwell yw diweddiad peth na’i ddechreuad: gwell yw y dioddefgar o ysbryd na’r balch o ysbryd. Na fydd gyflym yn dy ysbryd i ddigio: oblegid dig sydd yn gorffwys ym mynwes ffyliaid. 10 Na ddywed, Paham y bu y dyddiau o’r blaen yn well na’r dyddiau hyn? canys nid o ddoethineb yr wyt yn ymofyn am y peth hyn.

11 Da yw doethineb gydag etifeddiaeth: ac o hynny y mae elw i’r rhai sydd yn gweled yr haul. 12 Canys cysgod yw doethineb, a chysgod yw arian: ond rhagoriaeth gwybodaeth yw bod doethineb yn rhoddi bywyd i’w pherchennog. 13 Edrych ar orchwyl Duw: canys pwy a all unioni y peth a gamodd efe? 14 Yn amser gwynfyd bydd lawen; ond yn amser adfyd ystyria: Duw hefyd a wnaeth y naill ar gyfer y llall, er mwyn na châi dyn ddim ar ei ôl ef. 15 Hyn oll a welais yn nyddiau fy ngwagedd: y mae un cyfiawn yn diflannu yn ei gyfiawnder, ac y mae un annuwiol yn estyn ei ddyddiau yn ei ddrygioni. 16 Na fydd ry gyfiawn; ac na chymer arnat fod yn rhy ddoeth: paham y’th ddifethit dy hun? 17 Na fydd ry annuwiol; ac na fydd ffôl: paham y byddit farw cyn dy amser? 18 Da i ti ymafael yn hyn; ac oddi wrth hyn na ollwng dy law: canys y neb a ofno Dduw, a ddaw allan ohonynt oll. 19 Doethineb a nertha y doeth, yn fwy na deg o gedyrn a fyddant yn y ddinas. 20 Canys nid oes dyn cyfiawn ar y ddaear a wna ddaioni, ac ni phecha. 21 Na osod dy galon ar bob gair a ddyweder; rhag i ti glywed dy was yn dy felltithio. 22 Canys llawer gwaith hefyd y gŵyr dy galon, ddarfod i ti dy hun felltithio eraill.

23 Hyn oll a brofais trwy ddoethineb: mi a ddywedais, Mi a fyddaf ddoeth; a hithau ymhell oddi wrthyf. 24 Y peth sydd bell a dwfn iawn, pwy a’i caiff? 25 Mi a droais â’m calon i wybod, ac i chwilio, ac i geisio doethineb, a rheswm; ac i adnabod annuwioldeb ffolineb, sef ffolineb ac ynfydrwydd: 26 Ac mi a gefais beth chwerwach nag angau, y wraig y mae ei chalon yn faglau ac yn rhwydau, a’i dwylo yn rhwymau: y neb sydd dda gan Dduw, a waredir oddi wrthi hi; ond pechadur a ddelir ganddi. 27 Wele, hyn a gefais, medd y Pregethwr, wrth chwilio o’r naill beth i’r llall, i gael y rheswm; 28 Yr hwn beth eto y chwilia fy enaid amdano, ac ni chefais: un gŵr a gefais ymhlith mil; ond un wraig yn eu plith hwy oll nis cefais. 29 Wele, hyn yn unig a gefais; wneuthur o Dduw ddyn yn uniawn: ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychmygion.