Add parallel Print Page Options

12 Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe: canys efe a gymerasai Ethiopes yn wraig. A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r Arglwydd a glybu hynny. A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear. A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trioedd. Yna y disgynnodd yr Arglwydd yng ngholofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau. Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd proffwyd yr Arglwydd yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho. Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ. Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd: paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses? A digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith. 10 A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahanglwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahanglwyfus. 11 Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, atolwg, na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom. 12 Na fydded hi, atolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam. 13 A Moses a waeddodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Dduw, atolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon.

14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, oni chywilyddiai hi saith niwrnod? caeer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll ac wedi hynny derbynier hi. 15 A chaewyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: a’r bobl ni chychwynnodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn. 16 Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Haseroth, ac a wersyllasant yn anialwch Paran.