Add parallel Print Page Options

26 A bu, wedi i’r Iesu orffen y geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Chwi a wyddoch mai gwedi deuddydd y mae’r pasg; a Mab y dyn a draddodir i’w groeshoelio. Yna yr ymgasglodd yr archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, a henuriaid y bobl, i lys yr archoffeiriad, yr hwn a elwid Caiaffas: A hwy a gydymgyngorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.

Ac a’r Iesu ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, Daeth ato wraig a chanddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a’i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. A phan welodd ei ddisgyblion, hwy a sorasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu’r golled hon? Canys fe a allasid gwerthu’r ennaint hwn er llawer, a’i roddi i’r tlodion. 10 A’r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur blinder i’r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. 11 Oblegid y mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi; a mi nid ydych yn ei gael bob amser. 12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorff, a wnaeth hyn i’m claddu i. 13 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa amdani hi.

14 Yna yr aeth un o’r deuddeg, yr hwn a elwid Jwdas Iscariot, at yr archoffeiriaid, 15 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. 16 Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i’w fradychu ef.

17 Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg? 18 Ac yntau a ddywedodd, Ewch i’r ddinas at y cyfryw un, a dywedwch wrtho, Y mae’r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyda thi y cynhaliaf y pasg, mi a’m disgyblion. 19 A’r disgyblion a wnaethant y modd y gorchmynasai’r Iesu iddynt, ac a baratoesant y pasg. 20 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyda’r deuddeg. 21 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai un ohonoch chwi a’m bradycha i. 22 A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bob un ohonynt, Ai myfi yw, Arglwydd? 23 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr hwn a wlych ei law gyda mi yn y ddysgl, hwnnw a’m bradycha i. 24 Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: eithr gwae’r dyn hwnnw trwy’r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i’r dyn hwnnw pe nas ganesid ef. 25 A Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, a atebodd ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.

26 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddodd i’r disgyblion, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff. 27 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a diolch, efe a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Yfwch bawb o hwn: 28 Canys hwn yw fy ngwaed o’r testament newydd, yr hwn a dywelltir dros lawer, er maddeuant pechodau. 29 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad. 30 Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. 31 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o’m plegid i: canys ysgrifenedig yw, Trawaf y bugail, a defaid y praidd a wasgerir. 32 Eithr wedi fy atgyfodi, mi a af o’ch blaen chwi i Galilea. 33 A Phedr a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o’th blegid di, eto ni’m rhwystrir i byth. 34 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai’r nos hon, cyn canu o’r ceiliog, y’m gwedi deirgwaith. 35 Pedr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddai imi farw gyda thi, ni’th wadaf ddim. Yr un modd hefyd y dywedodd yr holl ddisgyblion.

36 Yna y daeth yr Iesu gyda hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Eisteddwch yma, tra elwyf a gweddïo acw. 37 Ac efe a gymerth Pedr, a dau fab Sebedeus, ac a ddechreuodd dristáu ac ymofidio. 38 Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angau: arhoswch yma, a gwyliwch gyda mi. 39 Ac wedi iddo fyned ychydig ymlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddïo, a dywedyd, Fy Nhad, os yw bosibl, aed y cwpan hwn heibio oddi wrthyf: eto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. 40 Ac efe a ddaeth at y disgyblion, ac a’u cafodd hwy yn cysgu; ac a ddywedodd wrth Pedr, Felly; oni allech chwi wylied un awr gyda mi? 41 Gwyliwch a gweddïwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr ysbryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wan. 42 Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddïodd, gan ddywedyd, Fy Nhad, onis gall y cwpan hwn fyned heibio oddi wrthyf, na byddo i mi yfed ohono, gwneler dy ewyllys di. 43 Ac efe a ddaeth, ac a’u cafodd hwy yn cysgu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. 44 Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth ymaith drachefn, ac a weddïodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau. 45 Yna y daeth efe at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch bellach, a gorffwyswch: wele, y mae’r awr wedi nesáu, a Mab y dyn a draddodir i ddwylo pechaduriaid. 46 Codwch, awn: wele, nesaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.

47 Ac efe eto yn llefaru, wele, Jwdas, un o’r deuddeg, a ddaeth, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl. 48 A’r hwn a’i bradychodd ef a roesai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa un bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef. 49 Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Henffych well, Athro; ac a’i cusanodd ef. 50 A’r Iesu a ddywedodd wrtho. Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a’i daliasant ef. 51 Ac wele, un o’r rhai oedd gyda’r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ei glust ef. 52 Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i’w le: canys pawb a’r a gymerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf. 53 A ydwyt ti yn tybied nas gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhad, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy na deuddeg lleng o angylion? 54 Pa fodd ynteu y cyflawnid yr ysgrythurau, mai felly y gorfydd bod? 55 Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffyn i’m dal i? yr oeddwn i beunydd gyda chwi yn eistedd yn dysgu yn y deml, ac ni’m daliasoch. 56 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid ysgrythurau’r proffwydi. Yna yr holl ddisgyblion a’i gadawsant ef, ac a ffoesant.

57 A’r rhai a ddaliasent yr Iesu, a’i dygasant ef ymaith at Caiaffas yr archoffeiriad, lle yr oedd yr ysgrifenyddion a’r henuriaid wedi ymgasglu ynghyd. 58 A Phedr a’i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr archoffeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gyda’r gweision, i weled y diwedd. 59 A’r archoffeiriaid a’r henuriaid, a’r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth; 60 Ac nis cawsant: ie, er dyfod yno gau dystion lawer, ni chawsant. Eithr o’r diwedd fe a ddaeth dau gau dyst, 61 Ac ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio teml Dduw, a’i hadeiladu mewn tri diwrnod. 62 A chyfododd yr archoffeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A atebi di ddim? beth y mae’r rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? 63 Ond yr Iesu a dawodd. A’r archoffeiriad gan ateb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy’r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni, ai tydi yw y Crist, Mab Duw. 64 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, Ar ôl hyn y gwelwch Fab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw’r gallu, ac yn dyfod ar gymylau’r nef. 65 Yna y rhwygodd yr archoffeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, Efe a gablodd: pa raid inni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef. 66 Beth dybygwch chwi? Hwythau gan ateb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth. 67 Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a’i cernodiasant; eraill a’i trawsant ef â gwiail, 68 Gan ddywedyd, Proffwyda i ni, O Grist, pwy yw’r hwn a’th drawodd?

69 A Phedr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig ato, ac a ddywedodd, A thithau oeddit gydag Iesu y Galilead. 70 Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. 71 A phan aeth efe allan i’r porth, gwelodd un arall ef; a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gyda’r Iesu o Nasareth. 72 A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dyn. 73 Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, ac a ddywedasant wrth Pedr, Yn wir yr wyt tithau yn un ohonynt; canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo. 74 Yna y dechreuodd efe regi a thyngu, Nid adwaen i y dyn. Ac yn y man y canodd y ceiliog. 75 A chofiodd Pedr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasai wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, ti a’m gwedi deirgwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.