Add parallel Print Page Options

25 Yna tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddeg o forynion, y rhai a gymerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â’r priodfab. A phump ohonynt oedd gall, a phump yn ffôl. Y rhai oedd ffôl a gymerasant eu lampau, ac ni chymerasant olew gyda hwynt: A’r rhai call a gymerasant olew yn eu llestri gyda’u lampau. A thra oedd y priodfab yn aros yn hir, yr hepiasant oll ac yr hunasant. Ac ar hanner nos y bu gwaedd, Wele, y mae’r priodfab yn dyfod; ewch allan i gyfarfod ag ef. Yna y cyfododd yr holl forynion hynny, ac a drwsiasant eu lampau. A’r rhai ffôl a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o’ch olew chwi: canys y mae ein lampau yn diffoddi. A’r rhai call a atebasant, gan ddywedyd, Nid felly; rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain. 10 A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a’r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i’r briodas: a chaewyd y drws. 11 Wedi hynny y daeth y morynion eraill hefyd, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni. 12 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid adwaen chwi. 13 Gwyliwch gan hynny; am na wyddoch na’r dydd na’r awr y daw Mab y dyn.

14 Canys y mae teyrnas nefoedd fel dyn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda atynt. 15 Ac i un y rhoddodd efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall un, i bob un yn ôl ei allu ei hun; ac yn y fan efe a aeth oddi cartref. 16 A’r hwn a dderbyniasai’r pum talent a aeth, ac a farchnataodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill. 17 A’r un modd yr hwn a dderbyniasai’r ddwy, a enillodd yntau ddwy eraill. 18 Ond yr hwn a dderbyniasai un, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaear, ac a guddiodd arian ei arglwydd. 19 Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt. 20 A daeth yr hwn a dderbyniasai bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a roddaist ataf: wele, mi a enillais bum talent eraill atynt. 21 A dywedodd ei arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 22 A’r hwn a dderbyniasai ddwy dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist ataf: wele, dwy eraill a enillais atynt. 23 Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a’th osodaf ar lawer: dos i mewn i lawenydd dy arglwydd. 24 A’r hwn a dderbyniasai’r un dalent a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a’th adwaenwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle nis heuaist, ac yn casglu lle ni wasgeraist: 25 A mi a ofnais, ac a euthum, ac a guddiais dy dalent yn y ddaear: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun. 26 A’i arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O was drwg a diog, ti a wyddit fy mod yn medi lle nis heuais, ac yn casglu lle nis gwasgerais: 27 Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewidwyr; a mi, pan ddaethwn, a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun gyda llog. 28 Cymerwch gan hynny y dalent oddi wrtho, a rhoddwch i’r hwn sydd ganddo ddeg talent. 29 Canys i bob un y mae ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd; ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo y dygir oddi arno, ie, yr hyn sydd ganddo. 30 A bwriwch allan y gwas anfuddiol i’r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.

31 A Mab y dyn, pan ddêl yn ei ogoniant, a’r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orseddfainc ei ogoniant. 32 A chydgesglir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a’u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola’r bugail y defaid oddi wrth y geifr: 33 Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy. 34 Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheulaw, Deuwch, chwi fendigedigion fy Nhad, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd. 35 Canys bûm newynog, a chwi a roesoch imi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch imi ddiod: bûm ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi: 36 Noeth, a dilladasoch fi: bûm glaf, ac ymwelsoch â mi: bûm yng ngharchar, a daethoch ataf. 37 Yna yr etyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, ac y’th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom iti ddiod? 38 A pha bryd y’th welsom yn ddieithr, ac y’th ddygasom gyda ni? neu yn noeth, ac y’th ddilladasom? 39 A pha bryd y’th welsom yn glaf, neu yng ngharchar, ac y daethom atat? 40 A’r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch. 41 Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddi wrthyf, rai melltigedig, i’r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ac i’w angylion. 42 Canys bûm newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod: 43 Bûm ddieithr, ac ni’m dygasoch gyda chwi: noeth, ac ni’m dilladasoch: yn glaf ac yng ngharchar, ac nid ymwelsoch â mi. 44 Yna yr atebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa bryd y’th welsom yn newynog, neu yn sychedig, neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yng ngharchar, ac ni weiniasom iti? 45 Yna yr etyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint ag nas gwnaethoch i’r un o’r rhai lleiaf hyn, nis gwnaethoch i minnau. 46 A’r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.