Marc 6
Beibl William Morgan
6 Ac efe a aeth ymaith oddi yno, ac a ddaeth i’w wlad ei hun; a’i ddisgyblion a’i canlynasant ef. 2 Ac wedi dyfod y Saboth, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y synagog: a synnu a wnaeth llawer a’i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo, fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef? 3 Onid hwn yw’r saer, mab Mair, brawd Iago, a Joses, a Jwdas, a Simon? ac onid yw ei chwiorydd ef yma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o’i blegid ef. 4 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn ddibris ond yn ei wlad ei hun, ac ymhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. 5 Ac ni allai efe yno wneuthur dim gwyrthiau, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a’u hiacháu hwynt. 6 Ac efe a ryfeddodd oherwydd eu hanghrediniaeth: ac a aeth i’r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu.
7 Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bob yn ddau a dau; ac a roddes iddynt awdurdod ar ysbrydion aflan; 8 Ac a orchmynnodd iddynt, na chymerent ddim i’r daith, ond llawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu pyrsau: 9 Eithr eu bod â sandalau am eu traed; ac na wisgent ddwy bais. 10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymaith oddi yno. 11 A pha rai bynnag ni’ch derbyniant, ac ni’ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, ysgydwch y llwch a fyddo dan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, Y bydd esmwythach i Sodom a Gomorra yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno. 12 A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau: 13 Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac a eliasant ag olew lawer o gleifion, ac a’u hiachasant.
14 A’r brenin Herod a glybu (canys cyhoedd ydoedd ei enw ef); ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfododd o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef. 15 Eraill a ddywedasant, Mai Eleias yw. Ac eraill a ddywedasant, Mai proffwyd yw, neu megis un o’r proffwydi. 16 Ond Herod, pan glybu, a ddywedodd, Mai’r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn; efe a gyfododd o feirw. 17 Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a’i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd; am iddo ei phriodi hi. 18 Canys Ioan a ddywedasai wrth Herod, Nid cyfreithlon i ti gael gwraig dy frawd. 19 Ond Herodias a ddaliodd wg iddo, ac a chwenychodd ei ladd ef; ac nis gallodd: 20 Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fod ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd; ac a’i parchai ef: ac wedi iddo ei glywed ef, efe a wnâi lawer o bethau, ac a’i gwrandawai ef yn ewyllysgar. 21 Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod ar ei ddydd genedigaeth swper i’w benaethiaid, a’i flaenoriaid, a goreugwyr Galilea: 22 Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llances, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a’i rhoddaf i ti. 23 Ac efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a’i rhoddaf iti, hyd hanner fy nheyrnas. 24 A hithau a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hithau a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr. 25 Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr. 26 A’r brenin yn drist iawn, ni chwenychai ei bwrw hi heibio, oherwydd y llwon, a’r rhai oedd yn eistedd gydag ef. 27 Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchmynnodd ddwyn ei ben ef. 28 Ac yntau a aeth, ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddysgl, ac a’i rhoddes i’r llances; a’r llances a’i rhoddes ef i’w mam. 29 A phan glybu ei ddisgyblion ef, hwy a ddaethant ac a gymerasant ei gorff ef, ac a’i dodasant mewn bedd.
30 A’r apostolion a ymgasglasant at yr Iesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent, a’r rhai hefyd a athrawiaethasent. 31 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o’r neilltu, a gorffwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd cymaint ag i fwyta. 32 A hwy a aethant i le anghyfannedd mewn llong o’r neilltu. 33 A’r bobloedd a’u gwelsant hwy yn myned ymaith, a llawer a’i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o’r holl ddinasoedd, ac a’u rhagflaenasant hwynt, ac a ymgasglasant ato ef. 34 A’r Iesu, wedi myned allan, a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bod fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddysgu iddynt lawer o bethau. 35 Ac yna wedi ei myned hi yn llawer o’r dydd, y daeth ei ddisgyblion ato ef, gan ddywedyd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o’r dydd: 36 Gollwng hwynt ymaith, fel yr elont i’r wlad oddi amgylch, ac i’r pentrefi, ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nid oes ganddynt ddim i’w fwyta. 37 Ond efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i’w fwyta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deucan ceiniog o fara, a’i roddi iddynt i’w fwyta? 38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch, ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau bysgodyn. 39 Ac efe a orchmynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau ar y glaswellt. 40 A hwy a eisteddasant yn finteioedd a minteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur deg a deugeiniau. 41 Ac wedi cymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, gan edrych i fyny tua’r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a’u rhoddes at ei ddisgyblion, i’w gosod ger eu bronnau hwynt: a’r ddau bysgodyn a rannodd efe rhyngddynt oll. 42 A hwy oll a fwytasant, ac a gawsant ddigon. 43 A chodasant ddeuddeg basgedaid yn llawn o’r briwfwyd, ac o’r pysgod. 44 A’r rhai a fwytasent o’r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr. 45 Ac yn y man efe a gymhellodd ei ddisgyblion i fyned i’r llong, a myned o’r blaen i’r lan arall i Fethsaida, tra fyddai efe yn gollwng ymaith y bobl. 46 Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymaith, efe a aeth i’r mynydd i weddïo.
47 A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntau ei hun ar y tir. 48 Ac efe a’u gwelai hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo; canys y gwynt oedd yn eu herbyn. Ac ynghylch y bedwaredd wylfa o’r nos efe a ddaeth atynt, gan rodio ar y môr; ac a fynasai fyned heibio iddynt. 49 Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant. 50 (Canys hwynt oll a’i gwelsant ef, ac a ddychrynasant.) Ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymerwch gysur: myfi yw; nac ofnwch. 51 Ac efe a aeth i fyny atynt i’r llong; a’r gwynt a dawelodd. A hwy a synasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant. 52 Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wedi caledu. 53 Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Gennesaret, ac a laniasant. 54 Ac wedi eu myned hwynt allan o’r llong, hwy a’i hadnabuant ef yn ebrwydd. 55 Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o’r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelyau rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fod ef. 56 Ac i ba le bynnag yr elai efe i mewn, i bentrefi, neu ddinasoedd, neu wlad, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a atolygent iddo gael ohonynt gyffwrdd cymaint ag ymyl ei wisg ef: a chynifer ag a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.