Add parallel Print Page Options

20 A Digwyddodd ar un o’r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu’r bobl yn y deml, ac yn pregethu’r efengyl, ddyfod arno yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, gyda’r henuriaid, A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw’r hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon? Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynnaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi: Bedydd Ioan, ai o’r nef yr ydoedd, ai o ddynion? Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef? Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a’n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd. A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a’i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser. 10 Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a’i curasant ef, ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw. 11 Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a’i hanfonasant ymaith yn waglaw. 12 Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a’i bwriasant ef allan. 13 Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy annwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef. 14 Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymasant â’i gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw’r etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo’r etifeddiaeth yn eiddom ni. 15 A hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy? 16 Efe a ddaw, ac a ddifetha’r llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na ato Duw. 17 Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl? 18 Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef.

19 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddameg hon. 20 A hwy a’i gwyliasant ef, ac a yrasant gynllwynwyr, y rhai a gymerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i’w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw. 21 A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd. 22 Ai cyfreithlon i ni roi teyrnged i Gesar, ai nid yw? 23 Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi? 24 Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraff pwy sydd arni? A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar. 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Gesar, a’r eiddo Duw i Dduw. 26 Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef gerbron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant â sôn.

27 A rhai o’r Sadwceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes atgyfodiad,) a ddaethant ato ef, ac a ofynasant iddo, 28 Gan ddywedyd, Athro, Moses a ysgrifennodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw ohono yn ddi‐blant, ar gymryd o’i frawd ei wraig ef, a chodi had i’w frawd. 29 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a’r cyntaf a gymerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant. 30 A’r ail a gymerth y wraig, ac a fu farw yn ddi‐blant. 31 A’r trydydd a’i cymerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw. 32 Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd. 33 Yn yr atgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy un ohonynt yw hi? canys y saith a’i cawsant hi yn wraig. 34 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn gwreica, ac yn gwra: 35 Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw, a’r atgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra: 36 Canys ni allant farw mwy: oblegid cyd‐stad ydynt â’r angylion: a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr atgyfodiad. 37 Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob. 38 Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef. 39 Yna rhai o’r ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athro, da y dywedaist. 40 Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.

41 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Ddafydd? 42 Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Salmau, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, 43 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di. 44 Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?

45 Ac a’r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, 46 Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad llaesion, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a’r prif gadeiriau yn y synagogau, a’r prif eisteddleoedd yn y gwleddoedd; 47 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.