Add parallel Print Page Options

15 Ac yr oedd yr holl bublicanod a’r pechaduriaid yn nesáu ato ef, i wrando arno. A’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwyta gyda hwynt.

Ac efe a adroddodd wrthynt y ddameg hon, gan ddywedyd, Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll un ohonynt, nid yw’n gadael y namyn un pum ugain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi? Ac wedi iddo ei chael, efe a’i dyd hi ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen. A phan ddêl adref, efe a eilw ynghyd ei gyfeillion a’i gymdogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyda mi; canys cefais fy nafad a gollasid. Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nef am un pechadur a edifarhao, mwy nag am onid un pum ugain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch.

Neu pa wraig a chanddi ddeg dryll o arian, os cyll hi un dryll, ni olau gannwyll, ac ysgubo’r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef? Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghyd ei chyfeillesau a’i chymdogesau, gan ddywedyd, Cydlawenhewch â mi; canys cefais y dryll a gollaswn. 10 Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.

11 Ac efe a ddywedodd, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab: 12 A’r ieuangaf ohonynt a ddywedodd wrth ei dad, Fy nhad, dyro i mi y rhan a ddigwydd o’r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd. 13 Ac ar ôl ychydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasglodd y cwbl ynghyd, ac a gymerth ei daith i wlad bell; ac yno efe a wasgarodd ei dda, gan fyw yn afradlon. 14 Ac wedi iddo dreulio’r cwbl, y cododd newyn mawr trwy’r wlad honno; ac yntau a ddechreuodd fod mewn eisiau. 15 Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno; ac efe a’i hanfonodd ef i’w feysydd i borthi moch. 16 Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â’r cibau a fwytâi’r moch; ac ni roddodd neb iddo. 17 A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o’r eiddo fy nhad sydd yn cael eu gwala a’u gweddill o fara, a minnau yn marw o newyn? 18 Mi a godaf, ac a af at fy nhad, ac a ddywedaf wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; 19 Ac mwyach nid ydwyf deilwng i’m galw yn fab i ti: gwna fi fel un o’th weision cyflog. 20 Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dad. A phan oedd efe eto ymhell oddi wrtho, ei dad a’i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd. 21 A’r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o’th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i’m galw yn fab i ti. 22 A’r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg orau, a gwisgwch amdano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed: 23 A dygwch y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwytawn, a byddwn lawen. 24 Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen. 25 Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesáu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio. 26 Ac wedi iddo alw un o’r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn. 27 Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a’th dad a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach. 28 Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd ag ef. 29 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyda’m cyfeillion: 30 Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyda phuteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig. 31 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyda mi, a’r eiddof fi oll ydynt eiddot ti. 32 Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu: oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.