Add parallel Print Page Options

24 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Gorchymyn i feibion Israel ddwyn atat olew olewydden pur, coethedig, i’r goleuni, i beri i’r lampau gynnau bob amser. O’r tu allan i wahanlen y dystiolaeth, ym mhabell y cyfarfod, y trefna Aaron ef o hwyr hyd fore, gerbron yr Arglwydd, bob amser. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn. Ar y canhwyllbren pur y trefna efe y lampau gerbron yr Arglwydd bob amser.

A chymer beilliaid, a phoba ef yn ddeuddeg teisen: dwy ddegfed ran fydd pob teisen. A gosod hwynt yn ddwy res, chwech yn y rhes, ar y bwrdd pur, gerbron yr Arglwydd. A dod thus pur ar bob rhes, fel y byddo ar y bara, yn goffadwriaeth, ac yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. Ar bob dydd Saboth y trefna efe hyn gerbron yr Arglwydd bob amser, yn gyfamod tragwyddol oddi wrth feibion Israel. A bydd eiddo Aaron a’i feibion; a hwy a’i bwyty yn y lle sanctaidd: canys sancteiddiolaf yw iddo ef o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, trwy ddeddf dragwyddol.

10 A mab gwraig o Israel, a hwn yn fab gŵr o’r Aifft, a aeth allan ymysg meibion Israel; a mab yr Israeles a gŵr o Israel a ymgynenasant yn y gwersyll. 11 A mab y wraig o Israel a gablodd enw yr Arglwydd, ac a felltigodd: yna y dygasant ef at Moses: ac enw ei fam oedd Selomith, merch Dibri, o lwyth Dan. 12 A gosodasant ef yng ngharchar, fel yr hysbysid iddynt o enau yr Arglwydd beth a wnaent. 13 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 14 Dwg y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll: a rhodded pawb a’i clywsant ef eu dwylo ar ei ben ef, a llabyddied yr holl gynulleidfa ef. 15 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gablo ei Dduw, a ddwg ei bechod. 16 A lladder yn farw yr hwn a felltithio enw yr Arglwydd; yr holl gynulleidfa gan labyddio a’i llabyddiant ef: lladder yn gystal y dieithr a’r priodor, pan gablo efe enw yr Arglwydd.

17 A’r neb a laddo ddyn, lladder yntau yn farw. 18 A’r hwn a laddo anifail, taled amdano; anifail am anifail. 19 A phan wnelo un anaf ar ei gymydog; fel y gwnaeth, gwneler iddo: 20 Toriad am doriad, llygad am lygad, dant am ddant: megis y gwnaeth anaf ar ddyn, felly gwneler iddo yntau. 21 A’r hwn a laddo anifail, a dâl amdano: a laddo ddyn, a leddir. 22 Bydded un farn i chwi; bydded i’r dieithr, fel i’r priodor: myfi ydwyf yr Arglwydd eich Duw.

23 A mynegodd Moses hyn i feibion Israel: a hwynt a ddygasant y cablydd i’r tu allan i’r gwersyll, ac a’i llabyddiasant ef â cherrig. Felly meibion Israel a wnaethant megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.