Add parallel Print Page Options

13 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd, Dyn (pan fyddo yng nghroen ei gnawd chwydd, neu gramen, neu ddisgleirder, a bod yng nghroen ei gnawd ef megis pla’r clwyf gwahanol,) a ddygir at Aaron yr offeiriad, neu at un o’i feibion ef yr offeiriaid. A’r offeiriad a edrych ar y pla yng nghroen y cnawd: os y blewyn yn y pla fydd wedi troi yn wyn, a gwelediad y pla yn ddyfnach na chroen ei gnawd ef; pla gwahanglwyf yw hwnnw: a’r offeiriad a’i hedrych, ac a’i barn yn aflan. Ond os y disgleirdeb fydd gwyn yng nghroen ei gnawd ef, ac heb fod yn is ei welediad na’r croen, a’i flewyn heb droi yn wyn; yna caeed yr offeiriad ar y clwyfus saith niwrnod. A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ef: ac wele, os sefyll y bydd y pla yn ei olwg ef, heb ledu o’r pla yn y croen; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod eilwaith. Ac edryched yr offeiriad ef yr ail seithfed dydd: ac wele, os bydd y pla yn odywyll, heb ledu o’r pla yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân: cramen yw honno: yna golched ei wisgoedd a glân fydd. Ac os y gramen gan ledu a leda yn y croen, wedi i’r offeiriad ei weled, i’w farnu yn lân; dangoser ef eilwaith i’r offeiriad. Ac os gwêl yr offeiriad, ac wele, ledu o’r gramen yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw.

Pan fyddo ar ddyn bla gwahanglwyf, dyger ef at yr offeiriad; 10 Ac edryched yr offeiriad: yna, os chwydd gwyn a fydd yn y croen, a hwnnw wedi troi’r blewyn yn wyn, a dim cig noeth byw yn y chwydd; 11 Hen wahanglwyf yw hwnnw yng nghroen ei gnawd ef; a barned yr offeiriad ef yn aflan: na chaeed arno; oherwydd y mae efe yn aflan. 12 Ond os y gwahanglwyf gan darddu a dardda yn y croen, a gorchuddio o’r gwahanglwyf holl groen y clwyfus, o’i ben hyd ei draed, pa le bynnag yr edrycho’r offeiriad; 13 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os y gwahanglwyf fydd yn cuddio ei holl gnawd ef; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: trodd yn wyn i gyd: glân yw. 14 A’r dydd y gwelir ynddo gig byw, aflan fydd. 15 Yna edryched yr offeiriad ar y cig byw, a barned ef yn aflan: aflan yw y cig byw hwnnw; gwahanglwyf yw. 16 Neu os dychwel y cig byw, a throi yn wyn; yna deued at yr offeiriad: 17 Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os trodd y pla yn wyn; yna barned yr offeiriad y clwyfus yn lân: glân yw efe.

18 Y cnawd hefyd y bu ynddo gornwyd yn ei groen, a’i iacháu; 19 A bod yn lle y cornwyd chwydd gwyn, neu ddisgleirder gwyngoch, a’i ddangos i’r offeiriad: 20 Os, pan edrycho yr offeiriad arno, y gwelir ef yn is na’r croen, a’i flewyn wedi troi yn wyn; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: gwahanglwyf yw efe wedi tarddu o’r cornwyd. 21 Ond os yr offeiriad a’i hedrych; ac wele, ni bydd ynddo flewyn gwyn, ac ni bydd is na’r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod. 22 Ac os gan ledu y lleda yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla yw efe. 23 Ond os y disgleirder a saif yn ei le, heb ymledu, craith cornwyd yw efe; a barned yr offeiriad ef yn lân.

24 Os cnawd fydd â llosgiad yn y croen, a bod i’r cig byw sydd yn llosgi, ddisgleirder gwyngoch, neu wyn; 25 Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os blewyn yn y disgleirdeb fydd wedi troi yn wyn, ac yn is i’w weled na’r croen; gwahanglwyf yw hwnnw yn tarddu o’r llosgiad; a barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw. 26 Ond os yr offeiriad a’i hedrych; ac wele, ni bydd blewyn gwyn yn y disgleirder, ac ni bydd is na’r croen, ond ei fod yn odywyll; yna caeed yr offeiriad arno saith niwrnod. 27 Ac edryched yr offeiriad ef y seithfed dydd: os gan ledu y lledodd yn y croen; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: pla gwahanglwyf yw hwnnw. 28 Ac os y disgleirdeb a saif yn ei le, heb ledu yn y croen, ond ei fod yn odywyll; chwydd y llosgiad yw efe; barned yr offeiriad ef yn lân: canys craith y llosgiad yw hwnnw.

29 Os bydd gŵr neu wraig â phla arno mewn pen neu farf; 30 Yna edryched yr offeiriad y pla: ac wele, os is y gwelir na’r croen, a blewyn melyn main ynddo; yna barned yr offeiriad ef yn aflan: y ddufrech yw hwnnw; gwahanglwyf pen neu farf yw. 31 Ac os yr offeiriad a edrych ar bla’r ddufrech; ac wele, ni bydd yn is ei weled na’r croen, ac heb flewyn du ynddo; yna caeed yr offeiriad ar yr hwn y bo arno y ddufrech, saith niwrnod. 32 Ac edryched yr offeiriad ar y pla y seithfed dydd: ac wele, os y ddufrech ni bydd wedi lledu, ac ni bydd blewyn melyn ynddi, a heb fod yn is gweled y ddufrech na’r croen; 33 Yna eillier ef, ac nac eillied y fan y byddo y ddufrech; a chaeed yr offeiriad ar berchen y ddufrech saith niwrnod eilwaith. 34 A’r seithfed dydd edryched yr offeiriad ar y ddufrech: ac wele, os y ddufrech ni ledodd yn y croen, ac ni bydd is ei gweled na’r croen; yna barned yr offeiriad ef yn lân, a golched ei ddillad, a glân fydd. 35 Ond os y ddufrech gan ledu a leda yn y croen, wedi ei lanhau ef; 36 Yna edryched yr offeiriad ef: ac wele, os lledodd y ddufrech yn y croen, na chwilied yr offeiriad am y blewyn melyn: y mae efe yn aflan. 37 Ond os sefyll y bydd y ddufrech yn ei olwg ef, a blewyn du wedi tyfu ynddi; aeth y ddufrech yn iach, glân yw hwnnw; a barned yr offeiriad ef yn lân.

38 Os bydd yng nghroen cnawd gŵr neu wraig lawer o ddisglair fannau gwynion; 39 Yna edryched yr offeiriad: ac wele, os bydd yng nghroen eu cnawd hwynt ddisgleiriadau gwynion wedi gordduo; brychni yw hynny yn tarddu yn y croen: glân yw efe. 40 A gŵr pan syrthio gwallt ei ben, moel yw; eto glân fydd. 41 Ac os o du ei wyneb y syrth gwallt ei ben, efe a fydd talfoel; eto glân fydd efe. 42 Ond pan fyddo anafod gwyngoch yn y penfoeledd neu yn y talfoeledd; gwahanglwyf yw efe yn tarddu yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef. 43 Ac edryched yr offeiriad arno: ac wele, os bydd chwydd yr anafod yn wyngoch, yn ei benfoeledd, neu yn ei dalfoeledd ef, fel gwelediad gwahanglwyf yng nghroen y cnawd; 44 Gŵr gwahanglwyfus yw hwnnw, aflan yw; a’r offeiriad a’i barna ef yn llwyr aflan: yn ei ben y mae ei bla. 45 A’r gwahanglwyfus yr hwn y byddo pla arno, bydded ei wisgoedd ef wedi rhwygo, a’i ben yn noeth, a rhodded gaead ar ei wefus uchaf, a llefed, Aflan, aflan. 46 Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o’r gwersyll.

47 Ac os dilledyn fydd â phla gwahanglwyf ynddo, o ddilledyn gwlân, neu o ddilledyn llin, 48 Pa un bynnag ai yn yr ystof, ai yn yr anwe, o lin, neu o wlân, neu mewn croen, neu mewn dim a wnaed o groen; 49 Os gwyrddlas neu goch fydd yr anafod yn y dilledyn, neu yn y croen, neu yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen: pla’r gwahanglwyf yw efe; a dangoser ef i’r offeiriad. 50 Ac edryched yr offeiriad ar y pla; a chaeed ar y peth y bo y pla arno, saith niwrnod. 51 A’r seithfed dydd edryched ar y pla: os y pla a ledodd yn y dilledyn, pa un bynnag ai mewn ystof, ai mewn anwe, ai mewn croen, neu beth bynnag a wnaed o groen; gwahanglwyf ysol yw y pla; aflan yw. 52 Am hynny llosged y dilledyn hwnnw, pa un bynnag ai ystof, ai anwe, o wlân, neu o lin, neu ddim o groen, yr hwn y byddo pla ynddo: canys gwahanglwyf ysol yw efe; llosger yn tân. 53 Ac os edrych yr offeiriad; ac wele, ni ledodd y pla mewn dilledyn, mewn ystof, neu mewn anwe, neu ddim o groen; 54 Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt olchi yr hyn y byddo y pla ynddo, a chaeed arno saith niwrnod eilwaith. 55 Ac edryched yr offeiriad ar y pla wedi ei olchi: ac wele, os y pla ni throdd ei liw, ac ni ledodd y pla; efe a fydd aflan; llosg ef yn tân; ysiad yw, pa un bynnag y bo yn llwm ai o’r tu mewn ai o’r tu allan. 56 Ac os edrych yr offeiriad; ac wele’r pla yn odywyll, ar ôl ei olchi; yna torred ef allan o’r dilledyn, neu o’r croen, neu o’r ystof, neu o’r anwe. 57 Ond os gwelir ef eto yn y dilledyn, yn yr ystof, neu yn yr anwe, neu mewn dim o groen; tarddu y mae efe: llosg yr hwn y mae y pla ynddo yn tân. 58 A’r dilledyn, neu yr ystof, neu yr anwe, neu pa beth bynnag o groen, y rhai a olcher, os ymadawodd y pla â hwynt, a olchir eilwaith; a glân fydd. 59 Dyma gyfraith pla gwahanglwyf, mewn dilledyn gwlân, neu lin, mewn ystof, neu anwe, neu pa beth bynnag o groen, i’w farnu yn lân, neu i’w farnu yn aflan.