
Lefiticus 10 Beibl William Morgan (BWM)10 Yna Nadab ac Abihu, meibion Aaron, a gymerasant bob un ei thuser, ac a roddasant dân ynddynt, ac a osodasant arogl‐darth ar hynny; ac a offrymasant gerbron yr Arglwydd dân dieithr yr hwn ni orchmynasai efe iddynt. 2 A daeth tân allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a’u difaodd hwynt; a buant feirw gerbron yr Arglwydd. 3 A dywedodd Moses wrth Aaron, Dyma’r hyn a lefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Mi a sancteiddir yn y rhai a nesânt ataf, a cherbron yr holl bobl y’m gogoneddir. A thewi a wnaeth Aaron. 4 A galwodd Moses Misael ac Elsaffan, meibion Ussiel, ewythr Aaron, a dywedodd wrthynt, Deuwch yn nes; dygwch eich brodyr oddi gerbron y cysegr, allan o’r gwersyll. 5 A nesáu a wnaethant, a’u dwyn hwynt yn eu peisiau allan o’r gwersyll; fel y llefarasai Moses. 6 A dywedodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar ei feibion, Na ddiosgwch oddi am eich pennau, ac na rwygwch eich gwisgoedd: rhag i chwi farw, a dyfod digofaint ar yr holl gynulleidfa: ond wyled eich brodyr chwi, holl dŷ Israel, am y llosgiad a losgodd yr Arglwydd. 7 Ac nac ewch allan o ddrws pabell y cyfarfod; rhag i chwi farw: oherwydd bod olew eneiniad yr Arglwydd arnoch chwi. A gwnaethant fel y llefarodd Moses. 8 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd, 9 Gwin a diod gadarn nac yf di, na’th feibion gyda thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau fydd hyn: 10 A hynny er gwahanu rhwng cysegredig a digysegredig, a rhwng aflan a glân; 11 Ac i ddysgu i feibion Israel yr holl ddeddfau a lefarodd yr Arglwydd wrthynt trwy law Moses. 12 A llefarodd Moses wrth Aaron, ac wrth Eleasar ac wrth Ithamar, y rhai a adawsid o’i feibion ef, Cymerwch y bwyd‐offrwm sydd yng ngweddill o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a bwytewch yn groyw gerllaw yr allor: oherwydd sancteiddiolaf yw. 13 A bwytewch ef yn y lle sanctaidd: oherwydd dy ran di, a rhan dy feibion di, o ebyrth tanllyd yr Arglwydd, yw hyn: canys fel hyn y’m gorchmynnwyd. 14 Y barwyden gyhwfan hefyd, a’r ysgwyddog ddyrchafael, a fwytewch mewn lle glân; tydi, a’th feibion, a’th ferched, ynghyd â thi: oherwydd hwynt a roddwyd yn rhan i ti, ac yn rhan i’th feibion di, o ebyrth hedd meibion Israel. 15 Yr ysgwyddog ddyrchafael, a’r barwyden gyhwfan, a ddygant ynghyd ag ebyrth tanllyd o’r gwêr, i gyhwfanu offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: a bydded i ti, ac i’th feibion gyda thi, yn rhan dragwyddol; fel y gorchmynnodd yr Arglwydd. 16 A Moses a geisiodd yn ddyfal fwch yr aberth dros bechod; ac wele ef wedi ei losgi: ac efe a ddigiodd wrth Eleasar ac Ithamar, y rhai a adawsid o feibion Aaron, gan ddywedyd, 17 Paham na fwytasoch yr aberth dros bechod yn y lle sanctaidd; oherwydd sancteiddiolaf yw, a Duw a’i rhoddodd i chwi, i ddwyn anwiredd y gynulleidfa, gan wneuthur cymod drostynt, gerbron yr Arglwydd? 18 Wele, ni ddygwyd ei waed ef i fewn y cysegr: ei fwyta a ddylasech yn y cysegr; fel y gorchmynnais. 19 A dywedodd Aaron wrth Moses, Wele, heddiw yr offrymasant eu haberth dros bechod, a’u poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd; ac fel hyn y digwyddodd i mi; am hynny os bwytawn aberth dros bechod heddiw, a fyddai hynny dda yng ngolwg yr Arglwydd? 20 A phan glybu Moses hynny, efe a fu fodlon.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
For the best Bible Gateway experience, upgrade to Bible Gateway Plus. For less than the cost of a latte each month, you'll gain access to a vast digital Bible study library and reduced banner ads to minimize distractions from God's Word. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.