Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
A new Bible Gateway experience is here. Spot something unexpected? Tell us what needs a closer look.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
New Bible Gateway. Take the quick tour.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Lefiticus 26  Beibl William Morgan

26 Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 2 Fy Sabothau i a gedwch, a’m cysegr i a berchwch: myfi ydwyf yr Arglwydd.

3 Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a’m gorchmynion a gedwch, a’u gwneuthur hwynt; 4 Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth. 5 A’ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin, a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a’ch bara a fwytewch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel. 6 Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir. 7 Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf. 8 A phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf. 9 A mi a edrychaf amdanoch, ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a’ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi. 10 A’r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd. 11 Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi. 12 A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi. 13 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.

14 Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn; 15 Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchmynion, ond torri fy nghyfamod; 16 Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer; canys eich gelynion a’i bwyty: 17 Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid. 18 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau. 19 A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn, a’ch tir chwi fel pres: 20 A’ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.

21 Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau. 22 Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a’ch gwna chwi yn ddi‐blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleiha chwi; a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch. 23 Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi; 24 Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a’ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau. 25 A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod: a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn. 26 A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwytewch, ac ni’ch digonir chwi. 27 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi; 28 Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ie myfi, a’ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau. 29 A chwi a fwytewch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwytewch. 30 Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi. 31 A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinistriaf eich cysegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd. 32 A mi a ddinistriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o’i herwydd. 33 Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl; a’ch tir fydd ddiffeithwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd. 34 Yna y mwynha’r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorffwys y tir, ac y mwynha ei Sabothau. 35 Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch y gorffwys; oherwydd na orffwysodd ar eich Sabothau chwi, pan oeddech yn trigo ynddo. 36 A’r hyn a weddillir ohonoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid. 37 A syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion. 38 Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a’ch bwyty. 39 A’r rhai a weddillir ohonoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant. 40 Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi; 41 A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion; os yno yr ymostwng eu calon ddienwaededig, a’u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth: 42 Minnau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob, a’m cyfamod hefyd ag Isaac, a’m cyfamod hefyd ag Abraham a gofiaf; ac a gofiaf y tir hefyd. 43 A’r tir a adewir ganddynt, ac a fwynha ei Sabothau, tra fyddo yn ddiffeithwch hebddynt: a hwythau a fodlonir am eu cosbedigaeth; o achos ac oherwydd dirmygu ohonynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o’u henaid fy neddfau. 44 Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i’w difetha, gan dorri fy nghyfamod â hwynt: oherwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt. 45 Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw: myfi ydwyf yr Arglwydd. 46 Dyma’r deddfau, a’r barnedigaethau, a’r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.

Next
Lefiticus 25
Lefiticus 27
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway