Add parallel Print Page Options

16 A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i’r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel; Ac yn myned o Bethel i Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth; Ac yn disgyn tua’r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Beth‐horon isaf, ac hyd Geser: a’i gyrrau eithaf sydd hyd y môr. Felly meibion Joseff, Manasse ac Effraim, a gymerasant eu hetifeddiaeth.

A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Ataroth‐adar, hyd Beth‐horon uchaf. A’r terfyn sydd yn myned tua’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath‐Seilo, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha: Ac yn myned i waered o Janoha, i Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen. O Tappua y mae y terfyn yn myned tua’r gorllewin i afon Cana; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim, yn ôl eu teuluoedd. A dinasoedd neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse; yr holl ddinasoedd, a’u pentrefydd. 10 Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Geser: am hynny y trigodd y Canaaneaid ymhlith yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.