Add parallel Print Page Options

Galw yn awr, od oes neb a etyb i ti, ac at bwy o’r saint y troi di? Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen a ladd yr annoeth. Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio: ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth. Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd. Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a’r sychedig a lwnc eu cyfoeth. Er na ddaw cystudd allan o’r pridd, ac na flagura gofid allan o’r ddaear: Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny. Eto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar Dduw y rhoddwn fy achos: Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi: 10 Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd: 11 Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth. 12 Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben. 13 Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir. 14 Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos. 15 Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn. 16 Felly y mae gobaith i’r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn. 17 Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog. 18 Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a’i ddwylo ef a iachânt. 19 Mewn chwech o gyfyngderau efe ’th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi. 20 Mewn newyn efe a’th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf. 21 Rhag ffrewyll tafod y’th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo. 22 Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear. 23 Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi. 24 A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â’th drigfa, ac ni phechi. 25 A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had, a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear. 26 Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd, tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser. 27 Wele hyn, ni a’i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.