
Job 30 Beibl William Morgan (BWM)30 Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i’w gosod gyda chŵn fy nefaid. 2 I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy. 3 Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i’r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt: 4 Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt. 5 Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;) 6 I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau. 7 Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl. 8 Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na’r ddaear oeddynt. 9 Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt. 10 Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb. 11 Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a’m cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i. 12 Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i’m herbyn ffyrdd eu dinistr. 13 Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt. 14 Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith. 15 Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a’m hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl. 16 Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof. 17 Y nos y tyllir fy esgyrn o’m mewn: a’m gïau nid ydynt yn gorffwys. 18 Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisg a newidiodd: efe a’m hamgylcha fel coler fy mhais. 19 Efe a’m taflodd yn y clai; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw. 20 Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf. 21 Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law. 22 Yr wyt yn fy nyrchafu i’r gwynt; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd. 23 Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth; ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw. 24 Diau nad estyn ef law i’r bedd, er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef. 25 Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd? oni ofidiodd fy enaid dros yr anghenog? 26 Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwyliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth. 27 Fy ymysgaroedd a ferwasant, ac ni orffwysasant: dyddiau cystudd a’m rhagflaenasant. 28 Cerddais yn alarus heb yr haul: codais, a gwaeddais yn y gynulleidfa. 29 Yr ydwyf yn frawd i’r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys. 30 Fy nghroen a dduodd amdanaf, a’m hesgyrn a losgasant gan wres. 31 Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a’m horgan fel llais rhai yn wylo.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.