Add parallel Print Page Options

28 Diau fod gwythen i’r arian; a lle i’r aur, lle y coethant ef. Haearn a dynnir allan o’r pridd; ac o’r garreg y toddir pres. Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau. Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion. Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani. Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi. Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud: Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo. Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o’r gwraidd. 10 Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr. 11 Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni. 12 Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall? 13 Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw. 14 Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi. 15 Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian. 16 Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir; nac i’r onics gwerthfawr, nac i’r saffir. 17 Nid aur a grisial a’i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi. 18 Ni chofir y cwrel, na’r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau. 19 Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur. 20 Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall? 21 Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd. 22 Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â’n clustiau sôn amdani hi. 23 Duw sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi. 24 Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd; 25 I wneuthur pwys i’r gwynt; ac efe a bwysa’r dyfroedd wrth fesur. 26 Pan wnaeth efe ddeddf i’r glaw, a ffordd i fellt y taranau: 27 Yna efe a’i gwelodd hi, ac a’i mynegodd hi; efe a’i paratôdd hi, a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan. 28 Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.