Add parallel Print Page Options

47 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, dyfroedd a gyfodant o’r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant dros y wlad, a’r hyn sydd ynddi; y ddinas, a’r rhai sydd yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl breswylwyr y wlad a udant. Rhag sŵn twrf carnau ei feirch cryfion, rhag trwst ei gerbydau, a thrwst ei olwynion ef, y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant, gan wendid dwylo: O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr Arglwydd a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor. Moelni a ddaeth ar Gasa, torrwyd ymaith Ascalon, gyda’r rhan arall o’u dyffrynnoedd hwynt: pa hyd yr ymrwygi di? O cleddyf yr Arglwydd, pa hyd ni lonyddi? dychwel i’th wain, gorffwys a bydd ddistaw. Pa fodd y llonydda efe, gan i’r Arglwydd ei orchymyn ef yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môr? yno y gosododd ef.