Add parallel Print Page Options

27 Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrthyf, Gwna i ti rwymau a gefynnau, a dod hwynt am dy wddf; Ac anfon hwynt at frenin Edom, ac at frenin Moab, ac at frenin meibion Ammon, ac at frenin Tyrus, ac at frenin Sidon, yn llaw y cenhadau a ddelo i Jerwsalem at Sedeceia brenin Jwda; A gorchymyn iddynt ddywedyd wrth eu harglwyddi, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch wrth eich arglwyddi; Myfi a wneuthum y ddaear, y dyn a’r anifail sydd ar wyneb y ddaear, â’m grym mawr, ac â’m braich estynedig, ac a’u rhoddais hwynt i’r neb y gwelais yn dda. Ac yn awr mi a roddais yr holl diroedd hyn yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas; a mi a roddais hefyd anifeiliaid y maes i’w wasanaethu ef. A’r holl genhedloedd a’i gwasanaethant ef, a’i fab, a mab ei fab, nes dyfod gwir amser ei wlad ef; yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef. Ond y genedl a’r deyrnas nis gwasanaetho ef, sef Nebuchodonosor brenin Babilon, a’r rhai ni roddant eu gwddf dan iau brenin Babilon; â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, yr ymwelaf â’r genedl honno, medd yr Arglwydd, nes i mi eu difetha hwynt trwy ei law ef. Am hynny na wrandewch ar eich proffwydi, nac ar eich dewiniaid, nac ar eich breuddwydwyr, nac ar eich hudolion, nac ar eich swynyddion, y rhai sydd yn llefaru wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: 10 Canys celwydd y mae y rhai hyn yn ei broffwydo i chwi, i’ch gyrru chwi ymhell o’ch gwlad, ac fel y bwriwn chwi ymaith, ac y methoch. 11 Ond y genedl a roddo ei gwddf dan iau brenin Babilon, ac a’i gwasanaetho ef, y rhai hynny a adawaf fi yn eu gwlad eu hun, medd yr Arglwydd; a hwy a’i llafuriant hi, ac a drigant ynddi.

12 Ac mi a leferais wrth Sedeceia brenin Jwda yn ôl yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, Rhoddwch eich gwarrau dan iau brenin Babilon, a gwasanaethwch ef a’i bobl, fel y byddoch byw. 13 Paham y byddwch feirw, ti a’th bobl, trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint, fel y dywedodd yr Arglwydd yn erbyn y genedl ni wasanaethai frenin Babilon? 14 Am hynny na wrandewch ar eiriau y proffwydi y rhai a lefarant wrthych, gan ddywedyd, Nid rhaid i chwi wasanaethu brenin Babilon: canys y maent yn proffwydo celwydd i chwi. 15 Oherwydd nid myfi a’u hanfonodd hwynt, medd yr Arglwydd; er hynny hwy a broffwydant yn fy enw ar gelwydd, fel y gyrrwn chwi ymaith, ac y darfyddai amdanoch chwi, a’r proffwydi sydd yn proffwydo i chwi. 16 Myfi a leferais hefyd wrth yr offeiriaid, a’r holl bobl hyn, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Na wrandewch ar eiriau eich proffwydi, y rhai sydd yn proffwydo i chwi, gan ddywedyd, Wele, llestri tŷ yr Arglwydd a ddygir yn eu hôl o Babilon bellach ar frys; canys celwydd y maent yn ei broffwydo i chwi. 17 Na wrandewch arnynt; gwasanaethwch chwi frenin Babilon, a byddwch fyw: paham y byddai y ddinas hon yn ddiffeithwch? 18 Ond os proffwydi ydynt hwy, ac od ydyw gair yr Arglwydd gyda hwynt, eiriolant yr awr hon ar Arglwydd y lluoedd, nad elo y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Jwda, ac yn Jerwsalem, i Babilon.

19 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, am y colofnau, ac am y môr, ac am yr ystolion, ac am y rhan arall o’r llestri a adawyd yn y ddinas hon, 20 Y rhai ni ddug Nebuchodonosor brenin Babilon ymaith, pan gaethgludodd efe Jechoneia, mab Jehoiacim brenin Jwda, o Jerwsalem i Babilon, a holl bendefigion Jwda a Jerwsalem; 21 Ie, fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, am y llestri a adawyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhŷ brenin Jwda a Jerwsalem; 22 Hwy a ddygir i Babilon, ac yno y byddant hyd y dydd yr ymwelwyf â hwynt, medd yr Arglwydd: yna y dygaf hwynt i fyny, ac y dychwelaf hwynt i’r lle hwn.