Add parallel Print Page Options

11 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a dywedwch wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem; Dywed hefyd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel: Melltigedig fyddo y gŵr ni wrendy ar eiriau y cyfamod hwn, Yr hwn a orchmynnais i’ch tadau chwi y dydd y dygais hwynt o wlad yr Aifft, o’r ffwrn haearn, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llef, a gwnewch hwynt, yn ôl yr hyn oll a orchmynnwyf i chwi: felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw i chwithau: Fel y gallwyf gwblhau y llw a dyngais wrth eich tadau, ar roddi iddynt dir yn llifeirio o laeth a mêl, megis y mae heddiw. Yna yr atebais, ac y dywedais, O Arglwydd, felly y byddo. Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cyhoedda y geiriau hyn oll yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, gan ddywedyd, Gwrandewch eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt. Canys gan dystiolaethu y tystiolaethais wrth eich tadau, y dydd y dygais hwynt i fyny o dir yr Aifft, hyd y dydd hwn, trwy godi yn fore, a thystiolaethu, gan ddywedyd, Gwrandewch ar fy llais. Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, eithr rhodiasant bawb yn ôl cyndynrwydd eu calon ddrygionus: am hynny y dygaf arnynt holl eiriau y cyfamod hwn, yr hwn a orchmynnais iddynt ei wneuthur, ond ni wnaethant. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cydfradwriaeth a gafwyd yng ngwŷr Jwda, ac ymysg trigolion Jerwsalem. 10 Troesant at anwiredd eu tadau gynt, y rhai a wrthodasant wrando fy ngeiriau: a hwy a aethant ar ôl duwiau dieithr i’w gwasanaethu hwy: tŷ Jwda a thŷ Israel a dorasant fy nghyfamod yr hwn a wneuthum â’u tadau hwynt.

11 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn dwyn drwg arnynt, yr hwn nis gallant fyned oddi wrtho: yna y gwaeddant arnaf, ac ni wrandawaf hwynt. 12 Yna dinasoedd Jwda a thrigolion Jerwsalem a ânt, ac a waeddant ar y duwiau yr arogldarthant iddynt: ond gan waredu ni allant eu gwared hwynt yn amser eu drygfyd. 13 Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau, O Jwda; ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i’r peth gwaradwyddus hwnnw, ie, allorau i fwgdarthu i Baal. 14 Am hynny na weddïa dros y bobl hyn, ac na chyfod waedd neu weddi drostynt: canys ni wrandawaf yr amser y gwaeddant arnaf oherwydd eu drygfyd. 15 Beth a wna fy annwyl yn fy nhŷ, gan iddi wneuthur ysgelerder lawer? a’r cig cysegredig a aeth ymaith oddi wrthyt: pan wnelit ddrygioni, yna y llawenychit. 16 Olewydden ddeiliog deg, o ffrwyth prydferth, y galwodd yr Arglwydd dy enw: trwy drwst cynnwrf mawr y cyneuodd tân ynddi, a’i changhennau a dorrwyd. 17 Canys Arglwydd y lluoedd, yr hwn a’th blannodd, a draethodd ddrwg yn dy erbyn, oherwydd drygioni tŷ Israel a thŷ Jwda, y rhai a wnaethant yn eu herbyn eu hun, i’m digio i, trwy fwgdarthu i Baal.

18 A’r Arglwydd a hysbysodd i mi, a mi a’i gwn; yna y dangosaist i mi eu gweithredoedd hwy. 19 A minnau oeddwn fel oen neu fustach a ddygid i’w ladd; ac ni wyddwn fwriadu ohonynt fwriadau yn fy erbyn i, gan ddywedyd, Distrywiwn y pren ynghyd â’i ffrwyth, a difethwn ef o dir y rhai byw, fel na chofier ei enw ef mwy. 20 Eithr, O Arglwydd y lluoedd, barnwr cyfiawnder, a chwiliwr yr arennau a’r galon, gwelwyf dy ddialedd arnynt; canys i ti y datguddiais fy nghwyn. 21 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am wŷr Anathoth, y rhai a geisiant dy einioes, gan ddywedyd, Na phroffwyda yn enw yr Arglwydd, rhag dy farw trwy ein dwylo ni: 22 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele fi yn ymweled â hwynt: y gwŷr ieuainc a fyddant feirw trwy’r cleddyf, a’u meibion a’u merched a fyddant feirw o newyn. 23 Ac ni bydd gweddill ohonynt; canys mi a ddygaf ddrygfyd ar wŷr Anathoth, sef blwyddyn eu gofwy.