Add parallel Print Page Options

Iago, gwasanaethwr Duw a’r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg llwyth sydd ar wasgar, annerch. Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau; Gan wybod fod profiad eich ffydd chwi yn gweithredu amynedd. Ond caffed amynedd ei pherffaith waith; fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddiffygio mewn dim. O bydd ar neb ohonoch eisiau doethineb, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod; a hi roddir iddo ef. Eithr gofynned mewn ffydd, heb amau dim: canys yr hwn sydd yn amau, sydd gyffelyb i don y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. Gŵr dauddyblyg ei feddwl sydd anwastad yn ei holl ffyrdd. Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth: 10 A’r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glaswelltyn y diflanna efe. 11 Canys cyfododd yr haul gyda gwres, a gwywodd y glaswelltyn, a’i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei bryd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna’r cyfoethog yn ei ffyrdd. 12 Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i’r rhai a’i carant ef. 13 Na ddyweded neb, pan demtier ef, Gan Dduw y’m temtir: canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb. 14 Canys yna y temtir pob un, pan ei tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun. 15 Yna chwant, wedi ymddŵyn, a esgor ar bechod: pechod hefyd, pan orffenner, a esgor ar farwolaeth. 16 Fy mrodyr annwyl, na chyfeiliornwch. 17 Pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddi wrth Dad y goleuni, gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad, na chysgod tröedigaeth. 18 O’i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef. 19 O achos hyn, fy mrodyr annwyl, bydded pob dyn esgud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint: 20 Canys digofaint gŵr nid yw’n cyflawni cyfiawnder Duw. 21 Oherwydd paham rhoddwch heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais; a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau. 22 A byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain. 23 Oblegid os yw neb yn wrandawr y gair, ac heb fod yn wneuthurwr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wynepryd naturiol mewn drych: 24 Canys efe a’i hedrychodd ei hun, ac a aeth ymaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd. 25 Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid, ac a barhao ynddi, hwn, heb fod yn wrandawr anghofus, ond gwneuthurwr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithred. 26 Os yw neb yn eich mysg yn cymryd arno fod yn grefyddol, heb atal ei dafod, ond twyllo’i galon ei hun, ofer yw crefydd hwn. 27 Crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a’r Tad, yw hyn; Ymweled â’r amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y byd.