Add parallel Print Page Options

Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos eto, câr wraig, (hoff gan ei chyfaill, a hithau wedi torri ei phriodas,) yn ôl cariad yr Arglwydd ar feibion Israel, a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelau gwin. A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian, ac er homer o haidd, a hanner homer o haidd: A dywedais wrthi, Aros amdanaf lawer o ddyddiau; na phuteinia, ac na fydd i ŵr arall: a minnau a fyddaf felly i tithau. Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim. Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr Arglwydd a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf.