Add parallel Print Page Options

40 A Darfu wedi’r pethau hynny, i drulliad brenin yr Aifft, a’r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenin yr Aifft. A Pharo a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen‐trulliad, a’r pen‐pobydd: Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ’r distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseff yn rhwym. A’r distain a wnaeth Joseff yn olygwr arnynt hwy; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.

A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy. A’r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist. Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw? A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi. A’r pen‐trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o’m blaen; 10 Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaen‐darddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed. 11 Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo. 12 A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw’r tair cainc. 13 O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo. 14 Eto cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o’r tŷ hwn: 15 Oblegid yn lladrad y’m lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar. 16 Pan welodd y pen‐pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd‐dyllog ar fy mhen. 17 Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwyta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen. 18 A Joseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell. 19 O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwytânt dy gnawd di oddi amdanat.

20 Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharo: ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen‐trulliad, a’r pen‐pobydd ymysg ei weision. 21 Ac a osododd y pen‐trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwpan i law Pharo. 22 A’r pen‐pobydd a grogodd efe; fel y deonglasai Joseff iddynt hwy. 23 Ond y pen‐trulliad ni chofiodd Joseff, eithr anghofiodd ef.