Add parallel Print Page Options

35 A Duw a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd. Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gydag ef, Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhewch, a newidiwch eich dillad; A chyfodwn, ac esgynnwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i Dduw, yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais. A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a’r clustlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a’u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem. A hwy a gychwynasant: ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob.

A Jacob a ddaeth i Lus, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef; Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El‐bethel, oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef, pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd. A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhon‐bacuth.

Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a’i bendithiodd ef. 10 A Duw a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel. 11 Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di. 12 A’r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad. 13 A Duw a esgynnodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho. 14 A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddiod‐offrwm, ac a dywalltodd olew arni. 15 A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd Duw ag ef, Bethel.

16 A hwy a aethant ymaith o Bethel; ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor. 17 A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i’r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab. 18 Darfu hefyd, wrth ymadael o’i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben‐oni: ond ei dad a’i henwodd ef Benjamin. 19 A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem. 20 A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw. 21 Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal‐Edar. 22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad; a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg: 23 Meibion Lea; Reuben, cyntaf‐anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Sabulon. 24 Meibion Rahel; Joseff a Benjamin. 25 A meibion Bilha, llawforwyn Rahel; Dan a Nafftali. 26 A meibion Silpa, llawforwyn Lea; Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.

27 A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer‐Arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac. 28 A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd. 29 Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a’i feibion, Esau a Jacob, a’i claddasant ef.