Add parallel Print Page Options

34 A Dina merch Lea, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad. A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a’i canfu hi, ac a’i cymerth hi, ac a orweddodd gyda hi, ac a’i treisiodd. A’i enaid ef a lynodd wrth Dina merch Jacob; ie, efe a hoffodd y llances, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llances. Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymer y llances hon yn wraig i mi. A Jacob a glybu i Sichem halogi Dina ei ferch: (a’i feibion ef oedd gyda’i anifeiliaid ef yn y maes); a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref.

A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan ag ef. A meibion Jacob a ddaethant o’r maes, wedi clywed ohonynt; a’r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyda merch Jacob; canys ni ddylesid gwneuthur felly. A Hemor a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi, atolwg, yn wraig iddo ef. Ac ymgyfathrechwch â ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymerwch ein merched ni i chwithau. 10 A chwi a gewch breswylio gyda ni, a’r wlad fydd o’ch blaen chwi: trigwch a negeseuwch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi. 11 Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi, ac wrth ei brodyr, Caffwyf ffafr yn eich golwg, a’r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf. 12 Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llances i mi yn wraig. 13 A meibion Jacob a atebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, oherwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt; 14 Ac a ddywedasant wrthynt, Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededig: oblegid gwarthrudd yw hynny i ni. 15 Ond yn hyn y cytunwn â chwi: Os byddwch fel nyni, gan enwaedu pob gwryw i chwi; 16 Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymerwn eich merched chwithau i ninnau, a ni a gyd‐drigwn â chwi, a ni a fyddwn yn un bobl. 17 Ond oni wrandewch arnom ni i’ch enwaedu; yna y cymerwn ein merch, ac a awn ymaith. 18 A’u geiriau hwynt oedd dda yng ngolwg Hemor, ac yng ngolwg Sichem mab Hemor. 19 Ac nid oedodd y llanc wneuthur y peth, oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dad.

20 A Hemor, a Sichem ei fab ef, a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion, gan ddywedyd, 21 Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyda ni; trigant hwythau yn y wlad, a gwnânt eu negesau ynddi; a’r wlad, wele, sydd ddigon eang iddynt hwy: cymerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy. 22 Ond yn hyn y cytuna y dynion â ni, i drigo gyda ni, ar fod yn un bobl, os enwaedir pob gwryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig. 23 Eu hanifeiliaid hwynt, a’u cyfoeth hwynt, a’u holl ysgrubliaid hwynt, onid eiddom ni fyddant hwy? yn unig cytunwn â hwynt, a hwy a drigant gyda ni. 24 Ac ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef, y gwrandawodd pawb a’r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pob gwryw, sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.

25 A bu ar y trydydd dydd, pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dina, bob un ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pob gwryw. 26 Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf; a chymerasant Dina o dŷ Sichem, ac a aethant allan. 27 Meibion Jacob a ddaethant ar y lladdedigion, ac a ysbeiliasant y ddinas, am halogi ohonynt eu chwaer hwynt. 28 Cymerasant eu defaid hwynt, a’u gwartheg, a’u hasynnod hwynt, a’r hyn oedd yn y ddinas, a’r hyn oedd yn y maes, 29 A’u holl gyfoeth hwynt; a’u holl rai bychain, a’u gwragedd, a gaethgludasant hwy; ac ysbeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai. 30 A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid a’r Pheresiaid: a minnau yn ychydig o nifer, hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a’m tŷ. 31 Hwythau a atebasant, Ai megis putain y gwnâi efe ein chwaer ni?