
Genesis 26 Beibl William Morgan (BWM)26 A bu newyn yn y tir, heblaw y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelech brenin y Philistiaid i Gerar. 2 A’r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i’r Aifft: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt. 3 Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf: oherwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di. 4 A mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di: 5 Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwraeth, fy ngorchmynion, fy neddfau, a’m cyfreithiau. 6 Ac Isaac a drigodd yn Gerar. 7 A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi: canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca: canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg. 8 A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy’r ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig. 9 Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd ohonof, Rhag fy marw o’i phlegid hi. 10 A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o’r bobl orwedd gyda’th wraig di; felly y dygasit arnom ni bechod. 11 A gorchmynnodd Abimelech i’r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â’r gŵr hwn, neu â’i wraig, a leddir yn farw. 12 Ac Isaac a heuodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymaint. A’r Arglwydd a’i bendithiodd ef. 13 A’r gŵr a gynyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn. 14 Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a’r Philistiaid a genfigenasant wrtho ef. 15 A’r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a’u caeasant hwy, ac a’u llanwasant â phridd. 16 Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni. 17 Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno. 18 Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef, ac a gaeasai’r Philistiaid wedi marw Abraham; ac a enwodd enwau arnynt, yn ôl yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy. 19 Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog. 20 A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, Y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, Esec; oherwydd ymgynhennu ohonynt ag ef. 21 Cloddiasant hefyd bydew arall: ac ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Sitna. 22 Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall; ac nid ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth; ac a ddywedodd, Canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir. 23 Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Beer‐seba. 24 A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad di: nac ofna; canys byddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf, ac a luosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas. 25 Ac efe a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew. 26 Yna y daeth Abimelech ato ef o Gerar, ac Ahussath ei gyfaill, a Phichol tywysog ei lu. 27 Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, Paham y daethoch chwi ataf fi; gan i chwi fy nghasáu, a’m gyrru oddi wrthych? 28 Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyda thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfamod â thi; 29 Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom ninnau â thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi, ac y’th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr Arglwydd. 30 Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwytasant ac a yfasant. 31 Yna y codasant yn fore, a hwy a dyngasant bob un i’w gilydd: ac Isaac a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch. 32 A’r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr. 33 Ac efe a’i galwodd ef Seba: am hynny enw y ddinas yw Beer‐seba hyd y dydd hwn. 34 Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad. 35 A hwy oeddynt chwerwder ysbryd i Isaac ac i Rebeca.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.