Add parallel Print Page Options

20 Ac Abraham a aeth oddi yno i dir y deau, ac a gyfanheddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar. A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd, ac a gymerth Sara. Yna y daeth Duw at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymeraist, a hithau yn berchen gŵr. Ond Abimelech ni nesasai ati hi: ac efe a ddywedodd, Arglwydd, a leddi di genedl gyfiawn hefyd? Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac yng nglendid fy nwylo, y gwneuthum hyn. Yna y dywedodd Duw wrtho ef, mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a’th ateliais rhag pechu i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi. Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i’r gŵr; oherwydd proffwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddiau, ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti. Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr. Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur. 10 Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn? 11 A dywedodd Abraham, Am ddywedyd ohonof fi, Yn ddiau nid oes ofn Duw yn y lle hwn: a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig. 12 A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi. 13 Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed amdanaf fi, Fy mrawd yw efe. 14 Yna y cymerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morynion, ac a’u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig drachefn. 15 A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg. 16 Ac wrth Sara y dywedodd, Wele, rhoddais i’th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i’r rhai oll sydd gyda thi, a chyda phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.

17 Yna Abraham a weddïodd ar Dduw: a Duw a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forynion; a hwy a blantasant. 18 Oherwydd yr Arglwydd gan gau a gaeasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.