Add parallel Print Page Options

11 A’r holl ddaear ydoedd o un iaith, ac o un ymadrodd. A bu, a hwy yn ymdaith o’r dwyrain, gael ohonynt wastadedd yn nhir Sinar; ac yno y trigasant. A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Deuwch, gwnawn briddfeini, a llosgwn yn boeth: ac yr ydoedd ganddynt briddfeini yn lle cerrig, a chlai oedd ganddynt yn lle calch. A dywedasant, Moeswch, adeiladwn i ni ddinas, a thŵr, a’i nen hyd y nefoedd, a gwnawn i ni enw, rhag ein gwasgaru ar hyd wyneb yr holl ddaear. A’r Arglwydd a ddisgynnodd i weled y ddinas a’r tŵr a adeiladai meibion dynion. A dywedodd yr Arglwydd, Wele y bobl yn un, ac un iaith iddynt oll, a dyma eu dechreuad hwynt ar weithio: ac yr awr hon nid oes rwystr arnynt am ddim oll a’r a amcanasant ei wneuthur. Deuwch, disgynnwn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt, fel na ddeallont iaith ei gilydd. Felly yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt oddi yno ar hyd wyneb yr holl ddaear; a pheidiasant ag adeiladu’r ddinas. Am hynny y gelwir ei henw hi Babel; oblegid yno y cymysgodd yr Arglwydd iaith yr holl ddaear, ac oddi yno y gwasgarodd yr Arglwydd hwynt ar hyd wyneb yr holl ddaear.

10 Dyma genedlaethau Sem: Sem ydoedd fab can mlwydd, ac a genhedlodd Arffacsad ddwy flynedd wedi’r dilyw. 11 A Sem a fu fyw wedi iddo genhedlu Arffacsad, bum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 12 Arffacsad hefyd a fu fyw bymtheng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Sela. 13 Ac Arffacsad a fu fyw gwedi iddo genhedlu Sela, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 14 Sela hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Heber. 15 A Sela a fu fyw wedi iddo genhedlu Heber, dair o flynyddoedd a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 16 Heber hefyd a fu fyw bedair blynedd ar ddeg ar hugain, ac a genhedlodd Peleg. 17 A Heber a fu fyw wedi iddo genhedlu Peleg, ddeng mlynedd ar hugain a phedwar can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 18 Peleg hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Reu. 19 A Pheleg a fu fyw gwedi iddo genhedlu Reu, naw o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 20 Reu hefyd a fu fyw ddeuddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Serug. 21 A Reu a fu fyw wedi iddo genhedlu Serug, saith o flynyddoedd a dau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 22 Serug hefyd a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Nachor. 23 A Serug a fu fyw wedi iddo genhedlu Nachor, ddau can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 24 Nachor hefyd a fu fyw naw mlynedd ar hugain, ac a genhedlodd Tera. 25 A Nachor a fu fyw wedi iddo genhedlu Tera, onid un flwyddyn chwech ugain mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 26 Tera hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran.

27 A dyma genedlaethau Tera: Tera a genhedlodd Abram, Nachor, a Haran; a Haran a genhedlodd Lot. 28 A Haran a fu farw o flaen Tera ei dad, yng ngwlad ei enedigaeth, o fewn Ur y Caldeaid. 29 Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milca, merch Haran, tad Milca, a thad Isca. 30 A Sarai oedd amhlantadwy, heb blentyn iddi. 31 A Thera a gymerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno. 32 A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.