Add parallel Print Page Options

40 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod. A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia’r arch â’r wahanlen. Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyllbren, a goleua ei lampau ef. Gosod hefyd allor aur yr arogl‐darth gerbron arch y dystiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl. Dod hefyd allor y poethoffwrm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod. Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi ddwfr. A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa. A chymer olew yr eneiniad, ac eneinia’r tabernacl, a’r hyn oll sydd ynddo, a chysegra ef a’i holl lestri; a sanctaidd fydd. 10 Eneinia hefyd allor y poethoffrwm, a’i holl lestri; a’r allor a gysegri: a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf. 11 Eneinia y noe a’i throed, a sancteiddia hi. 12 A dwg Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr. 13 A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac eneinia ef, a sancteiddia ef, i offeiriadu i mi. 14 Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau. 15 Ac eneinia hwynt, megis yr eneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol, trwy eu cenedlaethau. 16 Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

17 Felly yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y codwyd y tabernacl. 18 A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau; 19 Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl, ac a osododd do’r babell‐len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

20 Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch. 21 Ac efe a ddug yr arch i’r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22 Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, o’r tu allan i’r wahanlen. 23 Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

24 Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du’r deau. 25 Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

26 Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen. 27 Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

28 Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl. 29 Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30 Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi. 31 A Moses, ac Aaron, a’i feibion, a olchasant yno eu dwylo a’u traed. 32 Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 33 Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.

34 Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl. 35 Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi’r tabernacl. 36 A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynnai meibion Israel i’w holl deithiau. 37 Ac oni chyfodai’r cwmwl, yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai. 38 Canys cwmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, yng ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.