Add parallel Print Page Options

27 Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a’i huchder o dri chufydd. A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn: a gwisg hi â phres. Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a’i rhawiau, a’i chawgiau, a’i chigweiniau, a’i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres. A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl. A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo’r rhwyd hyd hanner yr allor. A gwna drosolion i’r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres. A dod ei throsolion trwy’r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i’w dwyn hi. Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.

A gwna gynteddfa’r tabernacl ar y tu deau, tua’r deau: llenni’r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd, o gan cufydd o hyd, i un ystlys. 10 A’i hugain colofn, a’u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a’u cylchau, fydd o arian. 11 Felly o du’r gogledd ar hyd, y bydd llenni o gan cufydd o hyd, a’u hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres; a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian.

12 Ac i led y cynteddfa, o du’r gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a’u morteisiau yn ddeg. 13 A lled y cynteddfa, tua’r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain. 14 Y llenni o’r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a’u morteisiau yn dair. 15 Ac i’r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a’u tair mortais.

16 Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith; eu pedair colofn, a’u pedair mortais. 17 Holl golofnau’r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian; a’u pennau yn arian, a’u morteisiau yn bres.

18 Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd, a’i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd, a’u morteisiau o bres. 19 Holl lestri’r tabernacl yn eu holl wasanaeth, a’i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.

20 A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn ohonynt atat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i’r lamp losgi yn wastad. 21 Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i’r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, gerbron yr Arglwydd: deddf dragwyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.