Add parallel Print Page Options

22 Os lladrata un ych neu ddafad, a’i ladd, neu ei werthu; taled bum ych am ych, a phedair dafad am ddafad.

Os ceir lleidr yn torri tŷ, a’i daro fel y byddo farw; na choller gwaed amdano. Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed amdano; efe a ddyly gwbl dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad. Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.

Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o’r hyn gorau yn ei faes ei hun, ac o’r hyn gorau yn ei winllan ei hun.

Os tân a dyr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difaer das o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl daled yr hwn a gyneuodd y tân.

Os rhydd un i’w gymydog arian, neu ddodrefn i gadw, a’i ladrata o dŷ y gŵr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl: Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog. Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau gerbron y barnwyr; a’r hwn y barno’r swyddogion yn ei erbyn, taled i’w gymydog yn ddwbl. 10 Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymydog i gadw, a marw ohono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled: 11 Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at dda ei gymydog; a chymered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn. 12 Ac os gan ladrata y lladrateir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i’w berchennog. 13 Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.

14 Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim, a’i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gydag ef; gan dalu taled. 15 Os ei berchennog fydd gydag ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.

16 Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyda hi; gan gynysgaeddu cynysgaedded hi yn wraig iddo ei hun. 17 Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo taled arian yn ôl gwaddol morynion.

18 Na chaffed hudoles fyw.

19 Llwyr rodder i farwolaeth bob un a orweddo gydag anifail.

20 Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unig.

21 Na orthryma, ac na flina y dieithr: canys dieithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aifft.

22 Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad. 23 Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gweiddi ohonynt ddim arnaf; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt; 24 A’m digofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn amddifaid.

25 Os echwynni arian i’m pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel ocrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt. 26 Os cymeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul: 27 Oherwydd hynny yn unig sydd i’w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrando; canys trugarog ydwyf fi.

28 Na chabla’r swyddogion; ac na felltithia bennaeth dy bobl.

29 Nac oeda dalu y cyntaf o’th ffrwythau aeddfed, ac o’th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf‐anedig o’th feibion. 30 Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyda’i fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.

31 A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: ac na fwytewch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i’r ci.