Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
One verse. Every morning. Get the free Verse of the Day email.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
New Bible Gateway. Take the quick tour.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Esra 2  Beibl William Morgan

2 A dyma feibion y dalaith y rhai a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud, yr hon a gaethgludasai Nebuchodonosor brenin Babilon i Babilon, ac a ddychwelasant i Jerwsalem a Jwda, pob un i’w ddinas ei hun; 2 Y rhai a ddaeth gyda Sorobabel: Jesua, Nehemeia, Seraia, Reelaia, Mordecai, Bilsan, Mispar, Bigfai, Rehum, Baana. Rhifedi gwŷr pobl Israel: 3 Meibion Paros, dwy fil a deuddeg ac wyth ugain. 4 Meibion Seffatia, tri chant a deuddeg a thrigain. 5 Meibion Ara, saith gant a phymtheg a thrigain. 6 Meibion Pahath‐Moab, o feibion Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg. 7 Meibion Elam, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 8 Meibion Sattu, naw cant a phump a deugain. 9 Meibion Saccai, saith gant a thrigain. 10 Meibion Bani, chwe chant a dau a deugain. 11 Meibion Bebai, chwe chant a thri ar hugain. 12 Meibion Asgad, mil dau cant a dau ar hugain. 13 Meibion Adonicam, chwe chant a chwech a thrigain. 14 Meibion Bigfai, dwy fil ac onid pedwar trigain. 15 Meibion Adin, pedwar cant a phedwar ar ddeg a deugain. 16 Meibion Ater o Heseceia, onid dau pum ugain. 17 Meibion Besai, tri chant a thri ar hugain. 18 Meibion Jora, cant a deuddeg. 19 Meibion Hasum, dau cant a thri ar hugain. 20 Meibion Gibbar, pymtheg a phedwar ugain. 21 Meibion Bethlehem, cant a thri ar hugain. 22 Gwŷr Netoffa, onid pedwar trigain. 23 Gwŷr Anathoth, cant ac wyth ar hugain. 24 Meibion Asmafeth, dau a deugain. 25 Meibion Ciriath‐arim, Ceffira, a Beeroth, saith gant a thri a deugain. 26 Meibion Rama a Gaba, chwe chant ac un ar hugain. 27 Gwŷr Michmas, cant a dau ar hugain. 28 Gwŷr Bethel ac Ai, dau cant a thri ar hugain. 29 Meibion Nebo, deuddeg a deugain. 30 Meibion Magbis, cant ac onid pedwar trigain. 31 Meibion Elam arall, mil dau cant a phedwar ar ddeg a deugain. 32 Meibion Harim, tri chant ac ugain. 33 Meibion Lod, Hadid, ac Ono, saith gant a phump ar hugain. 34 Meibion Jericho, tri chant a phump a deugain. 35 Meibion Senaa, tair mil a chwe chant a deg ar hugain.

36 Yr offeiriaid: meibion Jedaia, o dŷ Jesua, naw cant deg a thrigain a thri. 37 Meibion Immer, mil a deuddeg a deugain. 38 Meibion Pasur, mil dau cant a saith a deugain. 39 Meibion Harim, mil a dau ar bymtheg.

40 Y Lefiaid: meibion Jesua a Chadmiel, o feibion Hodafia, pedwar ar ddeg a thrigain.

41 Y cantoriaid: meibion Asaff, cant ac wyth ar hugain.

42 Meibion y porthorion: sef meibion Salum, meibion Ater, meibion Talmon, meibion Accub, meibion Hatita, meibion Sobai, oedd oll gant ac onid un deugain.

43 Y Nethiniaid: meibion Siha, meibion Hasuffa, meibion Tabbaoth, 44 Meibion Ceros, meibion Sïaha, meibion Padon, 45 Meibion Lebana, meibion Hagaba, meibion Accub, 46 Meibion Hagab, meibion Samlai, meibion Hanan, 47 Meibion Gidel, meibion Gahar, meibion Reaia, 48 Meibion Resin, meibion Necoda, meibion Gassam, 49 Meibion Ussa, meibion Pasea, meibion Besai, 50 Meibion Asna, meibion Mehunim, meibion Neffusim, 51 Meibion Bacbuc, meibion Hacuffa, meibion Harhur, 52 Meibion Basluth, meibion Mehida, meibion Harsa, 53 Meibion Barcos, meibion Sisera, meibion Thama, 54 Meibion Neseia, meibion Hatiffa.

55 Meibion gweision Solomon: meibion Sotai meibion Soffereth, meibion Peruda, 56 Meibion Jaala, meibion Darcon, meibion Gidel, 57 Meibion Seffatia, meibion Hattil, meibion Pochereth o Sebaim, meibion Ami. 58 Yr holl Nethiniaid, a meibion gweision Solomon, oedd dri chant deuddeg a phedwar ugain. 59 A’r rhai hyn a aethant i fyny o Tel‐mela, Tel‐harsa, Cerub, Adan, ac Immer: ond ni fedrent ddangos tŷ eu tadau, na’u hiliogaeth, ai o Israel yr oeddynt: 60 Meibion Delaia, meibion Tobeia, meibion Necoda, chwe chant a deuddeg a deugain.

61 A meibion yr offeiriaid: meibion Habaia, meibion Cos, meibion Barsilai; yr hwn a gymerasai wraig o ferched Barsilai y Gileadiad, ac a alwasid ar eu henw hwynt. 62 Y rhai hyn a geisiasant eu hysgrifen ymhlith yr achau, ond ni chafwyd hwynt: am hynny y bwriwyd hwynt allan o’r offeiriadaeth. 63 A’r Tirsatha a ddywedodd wrthynt, na fwytaent o’r pethau sancteiddiaf, hyd oni chyfodai offeiriad ag Urim ac â Thummim.

64 Yr holl dyrfa ynghyd, oedd ddwy fil a deugain tri chant a thrigain: 65 Heblaw eu gweision a’u morynion; y rhai hynny oedd saith mil tri chant a dau ar bymtheg ar hugain: ac yn eu mysg yr oedd dau cant yn gantorion ac yn gantoresau. 66 Eu meirch oedd saith gant ac onid pedwar deugain; eu mulod yn ddau cant ac yn bump a deugain; 67 Eu camelod yn bedwar cant ac yn bymtheg ar hugain; eu hasynnod yn chwe mil saith gant ac ugain.

68 Ac o’r pennau‐cenedl pan ddaethant i dŷ yr Arglwydd, yr hwn oedd yn Jerwsalem, rhai a offrymasant o’u gwaith eu hun tuag at dŷ yr Arglwydd, i’w gyfodi yn ei le. 69 Rhoddasant yn ôl eu gallu i drysordy y gwaith, un fil a thrigain o ddracmonau aur, a phum mil o bunnoedd o arian, a chant o wisgoedd offeiriaid. 70 Yna yr offeiriaid a’r Lefiaid, a rhai o’r bobl, a’r cantorion, a’r porthorion, a’r Nethiniaid, a drigasant yn eu dinasoedd; a holl Israel yn eu dinasoedd.

Next
Esra 1
Esra 3
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway