Add parallel Print Page Options

63 Pwy yw hwn yn dyfod o Edom, yn goch ei ddillad o Bosra? hwn sydd hardd yn ei wisg, yn ymdaith yn amlder ei rym? Myfi, yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iacháu. Paham yr ydwyt yn goch dy ddillad, a’th wisgoedd fel yr hwn a sathrai mewn gwinwryf? Sethrais y gwinwryf fy hunan, ac o’r bobl nid oedd un gyda mi; canys mi a’u sathraf hwynt yn fy nig, ac a’u mathraf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a’m holl wisgoedd a lychwinaf. Canys dydd dial sydd yn fy nghalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth. Edrychais hefyd, ac nid oedd gynorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr: yna fy mraich fy hun a’m hachubodd, a’m llidiowgrwydd a’m cynhaliodd. A mi a sathraf y bobl yn fy nig, ac a’u meddwaf hwynt yn fy llidiowgrwydd; a’u cadernid a ddisgynnaf i’r llawr.

Cofiaf drugareddau yr Arglwydd, a moliant Duw, yn ôl yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau. Canys efe a ddywedodd, Diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd; felly efe a aeth yn Iachawdwr iddynt. Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychioldeb a’u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a’u dygodd hwynt, ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt.

10 Hwythau oeddynt wrthryfelgar, ac a ofidiasant ei Ysbryd sanctaidd ef: am hynny y trodd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn. 11 Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a’i bobl, gan ddywedyd, Mae yr hwn a’u dygodd hwynt i fyny o’r môr, gyda bugail ei braidd? mae yr hwn a osododd ei Ysbryd sanctaidd o’i fewn ef? 12 Yr hwn a’u tywysodd hwynt â deheulaw Moses, ac â’i ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd o’u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun enw tragwyddol? 13 Yr hwn a’u harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr anialwch, fel na thramgwyddent? 14 Fel y disgyn anifail i’r dyffryn, y gwna Ysbryd yr Arglwydd iddo orffwys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i ti enw gogoneddus.

15 Edrych o’r nefoedd a gwêl o annedd dy sancteiddrwydd a’th ogoniant: mae dy sêl a’th gadernid, lluosowgrwydd dy dosturiaethau a’th drugareddau tuag ataf fi? a ymataliasant? 16 Canys ti yw ein Tad ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na’n cydnebydd Israel: ti, Arglwydd, yw ein Tad ni, ein Gwaredydd; dy enw sydd erioed.

17 Paham, Arglwydd, y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o’th ffyrdd? ac y caledaist ein calonnau oddi wrth dy ofn? Dychwel er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth. 18 Dros ychydig ennyd y meddiannodd dy bobl sanctaidd: ein gwrthwynebwyr a fathrasant dy gysegr di. 19 Nyni ydym eiddot ti: erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy; ac ni elwid dy enw arnynt.