Add parallel Print Page Options

Canaf yr awr hon i’m hanwylyd, ganiad fy anwylyd am ei winllan. Gwinllan sydd i’m hanwylyd mewn bryn tra ffrwythlon: Ac efe a’i cloddiodd hi, ac a’i digaregodd, ac a’i plannodd o’r winwydden orau, ac a adeiladodd dŵr yn ei chanol, ac a drychodd winwryf ynddi: ac efe a ddisgwyliodd iddi ddwyn grawnwin, hithau a ddug rawn gwylltion. Ac yr awr hon, preswylwyr Jerwsalem, a gwŷr Jwda, bernwch, atolwg, rhyngof fi a’m gwinllan. Beth oedd i’w wneuthur ychwaneg i’m gwinllan, nag a wneuthum ynddi? paham, a mi yn disgwyl iddi ddwyn grawnwin, y dug hi rawn gwylltion? Ac yr awr hon mi a hysbysaf i chwi yr hyn a wnaf i’m gwinllan: tynnaf ymaith ei chae, fel y porer hi; torraf ei magwyr, fel y byddo hi yn sathrfa; A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni. Diau, gwinllan Arglwydd y lluoedd yw tŷ Israel, a gwŷr Jwda yw ei blanhigyn hyfryd ef: ac efe a ddisgwyliodd am farn, ac wele drais; am gyfiawnder, ac wele lef.

Gwae y rhai sydd yn cysylltu tŷ at dŷ, ac yn cydio maes wrth faes, hyd oni byddo eisiau lle, ac y trigoch chwi yn unig yng nghanol y tir. Lle y clywais y dywedodd Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau bydd tai lawer, mawrion a theg, yn anghyfannedd heb drigiannydd. 10 Canys deg cyfair o winllan a ddygant un bath, a lle homer a ddwg effa.

11 Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni enynno y gwin hwynt. 12 Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a’r nabl, y dympan, a’r bibell, a’r gwin: ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant.

13 Am hynny y caethgludwyd fy mhobl, am nad oes ganddynt wybodaeth: a’u gwŷr anrhydeddus sydd newynog, a’u lliaws a wywodd gan syched. 14 Herwydd hynny yr ymehangodd uffern, ac yr agorodd ei safn yn anferth; ac yno y disgyn eu gogoniant, a’u lliaws, a’u rhwysg, a’r hwn a lawenycha ynddi. 15 A’r gwrêng a grymir, a’r galluog a ddarostyngir, a llygaid y rhai uchel a iselir. 16 Ond Arglwydd y lluoedd a ddyrchefir mewn barn; a’r Duw sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder. 17 Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer; a dieithriaid a fwytânt ddiffeithfaoedd y breision. 18 Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd, a phechod megis â rhaffau men: 19 Y rhai a ddywedant, Brysied, a phrysured ei orchwyl, fel y gwelom; nesaed hefyd, a deued cyngor Sanct yr Israel, fel y gwypom.

20 Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw; ac am y da, Drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch: y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw. 21 Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun, a’r rhai deallgar yn eu golwg eu hun. 22 Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a’r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn: 23 Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr, ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt. 24 Am hynny, megis ag yr ysa y ffagl dân y sofl, ac y difa y fflam y mân us: felly y bydd eu gwreiddyn hwynt yn bydredd, a’u blodeuyn a gyfyd i fyny fel llwch; am iddynt ddiystyru cyfraith Arglwydd y lluoedd, a dirmygu gair Sanct yr Israel. 25 Am hynny yr enynnodd llid yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a’u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.

26 Ac efe a gyfyd faner i’r cenhedloedd o bell, ac a chwibana arnynt hwy o eithaf y ddaear: ac wele, ar frys yn fuan y deuant. 27 Ni bydd un blin na thramgwyddedig yn eu plith; ni huna yr un, ac ni chwsg: ac ni ddatodir gwregys ei lwynau, ac ni ddryllir carrai ei esgidiau. 28 Yr hwn sydd â’i saethau yn llymion, a’i holl fwâu yn anelog: carnau ei feirch ef a gyfrifir fel callestr, a’i olwynion fel corwynt. 29 Ei ruad fydd fel llew; efe a rua fel cenawon llew: efe a chwyrna hefyd, ac a ymeifl yn yr ysglyfaeth; efe a ddianc hefyd, ac a’i dwg ymaith yn ddiogel, ac ni bydd achubydd. 30 Ac efe a rua arnynt y dydd hwnnw, fel rhuad y môr: os edrychir ar y tir, wele dywyllwch, a chyfyngder, a’r goleuni a dywyllir yn ei nefoedd.