Add parallel Print Page Options

49 Gwrandewch arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr Arglwydd a’m galwodd o’r groth; o ymysgaroedd fy mam y gwnaeth goffa am fy enw. Gosododd hefyd fy ngenau fel cleddyf llym, yng nghysgod ei law y’m cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau; Ac a ddywedodd wrthyf, Fy ngwas i ydwyt ti, Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot. Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth; er hynny y mae fy marn gyda’r Arglwydd, a’m gwaith gyda’m Duw.

Ac yn awr, medd yr Arglwydd yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr Arglwydd, a’m Duw fydd fy nerth. Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a’th roddaf hefyd yn oleuni i’r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Gwaredydd Israel, a’i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr Arglwydd, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a’th ddewisodd di. Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Mewn amser bodlongar y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais; a mi a’th gadwaf, ac a’th roddaf yn gyfamod y bobl, i sicrhau y ddaear, i beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol; Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt. 10 Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt: oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a’u tywys, ac a’u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd. 11 A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a’m priffyrdd a gyfodir. 12 Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o’r gogledd, ac o’r gorllewin; a’r rhai yma o dir Sinim.

13 Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd: canys yr Arglwydd a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid. 14 Eto dywedodd Seion, Yr Arglwydd a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hanghofiodd. 15 A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di. 16 Wele, ar gledr fy nwylo y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser. 17 Dy blant a frysiant; y rhai a’th ddinistriant, ac a’th ddistrywiant, a ânt allan ohonot.

18 Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch. 19 Canys dy ddiffeithwch a’th anialwch, a’th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a’r rhai a’th lyncant a ymbellhânt. 20 Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych, Cyfyng yw y lle hwn i mi; dod le i mi, fel y preswyliwyf. 21 Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rhai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn? 22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau. 23 Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy famaethod; crymant i ti â’u hwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi.

24 A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn? 25 Ond fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ie, carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddianc: canys myfi a ymrysonaf â’th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feibion. 26 Gwnaf hefyd i’th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr Arglwydd yw dy Achubydd, a’th gadarn Waredydd di, Jacob.