
Eseia 36 Beibl William Morgan (BWM)36 Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i’r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl gaerog ddinasoedd Jwda, ac a’u goresgynnodd hwynt. 2 A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr. Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr. 3 Ac aeth ato ef Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur. 4 A dywedodd Rabsace wrthynt, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywed y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr ymddiriedi ynddo? 5 Dywedais, meddi, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel: ar bwy, atolwg, yr hyderi, pan wyt yn gwrthryfela i’m herbyn? 6 Wele, hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedig honno, ar yr Aifft; yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno. 7 Ond os dywedi wrthyf, Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym yn ymddiried: onid efe yw yr hwn y darfu i Heseceia dynnu i lawr ei uchelfeydd, a’i allorau, a dywedyd wrth Jwda a Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr addolwch? 8 Ac yn awr dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd brenin Asyria, a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt. 9 A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau ac am farchogion? 10 Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yr awr hon yn erbyn y wlad hon i’w dinistrio? yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi. 11 Yna y dywedodd Eliacim, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg: canys yr ydym ni yn ei deall; ac na lefara wrthym yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur. 12 Ond Rabsace a ddywedodd, Ai at dy feistr ac atat tithau yr anfonodd fy meistr fi i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur yr anfonodd fi, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi? 13 A safodd Rabsace, a gwaeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, ac a ddywedodd, Gwrandewch eiriau y brenin mawr, brenin Asyria: 14 Fel hyn y dywed y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi. 15 Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan waredu a’ch gwared chwi, ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria. 16 Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder â mi, a deuwch allan ataf, a bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun; 17 Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd. 18 Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a’n gwared ni. A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria? 19 Mae duwiau Hamath ac Arffad? mae duwiau Seffarfaim? a waredasant hwy Samaria o’m llaw i? 20 Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o’m llaw? 21 Eithr hwy a dawsant, ac nid atebasant air iddo: canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef. 22 Yna y daeth Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, â’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.