Add parallel Print Page Options

25 O Arglwydd, fy Nuw ydwyt; dyrchafaf di, moliannaf dy enw; canys gwnaethost ryfeddodau: dy gynghorion er ys talm sydd wirionedd a sicrwydd. Canys gosodaist ddinas yn bentwr, a thref gadarn yn garnedd; palas dieithriaid, fel na byddo ddinas; nid adeiledir hi byth. Am hynny pobl nerthol a’th ogonedda, dinas y cenhedloedd ofnadwy a’th arswyda: Canys buost nerth i’r tlawd, a chadernid i’r anghenog yn ei gyfyngder, yn nodded rhag tymestl, yn gysgod rhag gwres, pan oedd gwynt y cedyrn fel tymestl yn erbyn mur. Fel gwres mewn sychder y darostyngi dwrf dieithriaid; sef gwres â chysgod cwmwl; darostyngir cangen yr ofnadwy.

Ac Arglwydd y lluoedd a wna i’r holl bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw‐win; o basgedigion breision, a gloyw‐win puredig. Ac efe a ddifa yn y mynydd hwn y gorchudd sydd yn gorchuddio yr holl bobloedd, a’r llen yr hon a daenwyd ar yr holl genhedloedd. Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd Dduw a sych ymaith ddagrau oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr Arglwydd a’i llefarodd.

A’r dydd hwnnw y dywedir, Wele, dyma ein Duw ni; gobeithiasom ynddo, ac efe a’n ceidw: dyma yr Arglwydd; gobeithiasom ynddo, gorfoleddwn a llawenychwn yn ei iachawdwriaeth ef. 10 Canys llaw yr Arglwydd a orffwys yn y mynydd hwn, a Moab a sethrir tano, fel sathru gwellt mewn tomen. 11 Ac efe a estyn ei ddwylo yn eu canol hwy, fel yr estyn nofiedydd ei ddwylo i nofio; ac efe a ostwng eu balchder hwynt ynghyd ag ysbail eu dwylo. 12 Felly y gogwydda, y gostwng, ac y bwrw efe i lawr hyd y llwch, gadernid uchelder dy gaerau.