Add parallel Print Page Options

17 Baich Damascus. Wele Damascus wedi ei symud o fod yn ddinas, a charnedd wedi syrthio a fydd hi. Gwrthodwyd dinasoedd Aroer: i ddiadellau y byddant, y rhai a orweddant, ac ni bydd a’u dychryno. A derfydd amddiffynfa o Effraim, a brenhiniaeth o Damascus, a gweddill Syria: fel gogoniant meibion Israel y byddant, medd Arglwydd y lluoedd. Ac ar y dydd hwnnw y bydd i ogoniant Jacob feinhau, a braster ei gig ef a gulha. Ac efe a fydd fel pan gasglo y cynaeafwr ŷd, a medi â’i fraich y tywysennau: a bydd fel casglydd tywysennau yng nglyn Reffaim.

Eto ynddo y gadewir lloffion grawnwin, fel ysgydwad olewydden, sef dau neu dri o rawn ym mlaen y brig, a phedwar neu bump yn ei changhennau ffrwythlon eithaf, medd Arglwydd Dduw Israel. Yn y dydd hwnnw yr edrych dyn at ei Wneuthurwr, a’i lygaid a edrychant ar Sanct Israel: Ac nid edrych am yr allorau, y rhai ydynt waith ei ddwylo; ie, nid edrych am yr hyn a wnaeth ei fysedd, na’r llwyni, na’r delwau.

Yn y dydd hwnnw y bydd eu dinasoedd cedyrn fel cangen wrthodedig, a’r brig, y rhai a adawsant oherwydd meibion Israel: felly y bydd anghyfanhedd‐dra. 10 Oherwydd anghofio ohonot Dduw dy iachawdwriaeth, ac na chofiaist graig dy gadernid: am hynny y plenni blanhigion hyfryd, ac yr impi hwynt â changhennau dieithr. 11 Y dydd y gwnei i’th blanhigyn dyfu, a’r bore y gwnei i’th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus.

12 Gwae dyrfa pobloedd lawer, fel twrf y môr y trystiant; ac i dwrf y bobloedd a drystiant fel sŵn dyfroedd lawer. 13 Fel sŵn dyfroedd lawer y trystia y bobl; a Duw a’u cerydda hwynt, a hwy a ffoant ymhell, ac a erlidir fel peiswyn mynydd o flaen y gwynt, ac fel peth yn treiglo ym mlaen corwynt. 14 Ac wele drallod ar brynhawn, a chyn y bore ni bydd. Dyma ran y rhai a’n hanrheithiant ni, a choelbren y rhai a’n hysbeiliant ni.