Eseia 48
Beibl William Morgan
48 Gwrandewch hyn, tŷ Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, ac a ddaethant allan o ddyfroedd Jwda; y rhai a dyngant i enw yr Arglwydd, ac a goffânt am Dduw Israel, nid mewn gwirionedd, nac mewn cyfiawnder. 2 Canys hwy a’u galwant eu hunain o’r ddinas sanctaidd, ac a bwysant ar Dduw Israel; enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd. 3 Y pethau gynt a fynegais er y pryd hwnnw, a daethant o’m genau, a mi a’u traethais; mi a’u gwneuthum yn ddisymwth, daethant i ben. 4 Oherwydd i mi wybod dy fod di yn galed, a’th war fel giewyn haearn, a’th dalcen yn bres; 5 Mi a’i mynegais i ti er y pryd hwnnw; adroddais i ti cyn ei ddyfod; rhag dywedyd ohonot, Fy nelw a’u gwnaeth, fy ngherfddelw a’m tawdd‐ddelw a’u gorchmynnodd. 6 Ti a glywaist, gwêl hyn oll; ac oni fynegwch chwithau ef? adroddais i ti bethau newyddion o’r pryd hwn, a phethau cuddiedig, y rhai ni wyddit oddi wrthynt. 7 Yn awr y crewyd hwynt, ac nid er y dechreuad, cyn y dydd ni chlywaist sôn amdanynt: rhag dywedyd ohonot, Wele, gwyddwn hwynt. 8 Ie, nis clywsit, ac nis gwyddit chwaith, nid agorasid dy glust y pryd hwnnw: canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon, a’th alw o’r groth yn droseddwr.
9 Er mwyn fy enw yr oedaf fy llid, ac er fy mawl yr ymataliaf oddi wrthyt, rhag dy ddifetha. 10 Wele, myfi a’th burais, ond nid fel arian; dewisais di mewn pair cystudd. 11 Er fy mwyn fy hun, er fy mwyn fy hun, y gwnaf hyn; canys pa fodd yr halogid fy enw? ac ni roddaf fy ngogoniant i arall.
12 Gwrando arnaf fi, Jacob, ac Israel, yr hwn a elwais: myfi yw; myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf. 13 Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaear, a’m deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy a gydsafant. 14 Ymgesglwch oll, a gwrandewch; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn? Yr Arglwydd a’i hoffodd; efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a’i fraich a fydd ar y Caldeaid. 15 Myfi, myfi a leferais, ac a’i gelwais ef: dygais ef, ac efe a lwydda ei ffordd ef.
16 Nesewch ataf, gwrandewch hyn; ni leferais o’r cyntaf yn ddirgel; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno: ac yn awr yr Arglwydd Dduw a’i Ysbryd a’m hanfonodd. 17 Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Waredydd, Sanct Israel; Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio. 18 O na wrandawsit ar fy ngorchmynion! yna y buasai dy heddwch fel afon, a’th gyfiawnder fel tonnau y môr: 19 A buasai dy had fel y tywod, ac epil dy gorff fel ei raean ef: ni thorasid, ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy mron.
20 Ewch allan o Babilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid, â llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr Arglwydd ei was Jacob. 21 Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch: gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o’r graig: holltodd y graig hefyd, a’r dwfr a ddylifodd. 22 Nid oes heddwch, medd yr Arglwydd, i’r rhai annuwiol.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.